Tuesday 30 September 2008

Onsen


Beppu. Lle uffernol. Nid fy nisgrifiad i. Dyna sut mae'r lle 'ma'n marchnata'i hunan. Ond a dweud y gwir, mae'n rhyw fath o nefoedd ar gyfer pobl fel fi sy'n dwli ar gael bath.

Fel ym mhob rhan o Japan, mae dwr poeth o grombil y ddaear yn casglu mewn pyllau bach yn Beppu, ac mae 'na ardaloedd yma sy'n cael eu galw'n 'Hells,' tebyg i'r hyn sy'n Rotorua yn Seland Newydd.

Ond yr Onsen sy wedi'n denu ni yma - math o fath sy'n rhan annatod o ddiwylliant Japan - y spa gwreiddiol efallai. Yn syth ar ol cyrraedd, aethon ni i drio'r bath tywod. Do'n i ddim yn siwr beth i'w ddisgwyl, ond y disgrifiad gorau yw cael eich claddu'n fyw, neu gael eich plannu fel planhigyn.

Chi'n cael gwn gwisgo i'w ddodi amdanoch chi i ddechrau. Yna, ry'ch chi'n mynd i stafell boeth lle ma' menywod wedi torri rhych i chi yn y tywod. Maen nhw'n eich gwahodd i orwedd ynddo fe, cyn eich gorchuddio - o fodiau'ch traed hyd eich gwddf - mewn tywod poeth, trwm, gwlyb. Allwch chi ddim hyd yn oed symud eich pen. Mae'n brofiad rhyfedd tu hwnt, ond yn od o bleserus. Ar ol ymlacio am ddeg munud, gan deimlo'r gwaed yn pwmpio trwy'ch corff, mae'r menywod yn amneidio arnoch chi i godi. Dyna pryd ry'ch chi'n mynd i'r stafell ymolch, golchi'r tywod bant, cyn ymuno a'r menywod eraill yn yr Onsen poeth poeth. Ro'n i wedi ymlacio'n llwyr.

Ond mae llwyth o fathau gwahanol o Onsen. Mae'n debyg bod pobl Japan yn tueddu i ymgasglu mewn Onsen ar ddiwedd y dydd i ymlacio a chael clonc. Heddiw - ethon ni i Onsen awyr agored mewn pentref uwchben Beppu, Myoban. Oddi yno gallwch chi weld colofnau o stem yn codi o fannau gwahanol ar y mynyddoedd. Mae 'na gytiau bach to gwellt ymhobman, lle mae halen bath yn cael ei greu o'r sylffwr. Mae'r lle'n drewi a dweud y gwir ac roedd e'n troi arna i. Ond mae eistedd mewn onsen awyr agored ar eich pen eich hunan, ynghanol y niwl, gyda hat fach gonigol ar eich pen i gysgodi rhag y glaw yn brofiad hyfryd. Roedd Hywel yn eistedd mewn Onsen yr ochr arall i'r wal hefyd, yn tynnu lluniau, tan i rai dynion lleol ymuno. Does neb yn gwisgo dillad nofio yn y llefydd 'ma - ond dyw e ddim yn broblem. Chi'n dod i arfer a fe.

No comments: