Friday 12 September 2008

Gweithiwr cyn troi'n Deithiwr!

Helo! Heddi fydd fy niwrnod ola i yn y gwaith am gyfnod go hir. A dyma'r tro cynta i fi gadw blog! Rwy'n edrych mlaen bach mwy na ddylen i at ei gadw e, ac mae llawer o syniadau 'da fi am beth licen i gael arno fe. Mae perygl y bydda i'n trio'i hogo fe oddi wrth Hywel! Mae e yn Llundain heddi yn gobeithio y bydd Llysgenhadaeth Cheina yn rhoi visas i ni o'r diwedd. Os na wnewn nhw bydd rhaid ail-drefnu'r daith yno, fydd yn siom mawr. Dwlen i fynd i Beijing. A'r peth dwl fydd - erbyn i ni gyrraedd y wlad honno fyddwn ni ddim hyd yn oed yn gweithio i 'media organisation' maen nhw mor amheus ohono!!

Beth bynnag, ron i wedi bwriadu cofnodi peth o'n paratoadau ni - ond ry'n ni'n dechrau ar ein taith ddydd Llun felly gewch chi osgoi clywed am y diflastod hynny.

Mae'n beth da mewn ffordd bod y tywydd mor wael yma, mae'n rhoi hwb arall i ni i adael, tra bod y tristwch o ffarwelio a ffrindiau a theulu yn dynfa i aros. Roedd hyd yn oed fy mhentre i, Llanbedr-y-Fro, ar y newyddion Prydeinig wythnos 'ma gan bod y llifogydd wedi achosi shwt stad ar y lle. Fydda i ddim yn gweld eisiau'r glaw, er mod i'n siwr o hiraethu am bawb. Alla i ddim aros am bach o haul.

Reit, rwy off i bobi tishen fale i bawb o'r gwaith ar gyfer fy shifft ola i. Hwyl am y tro!

No comments: