Monday 22 September 2008

Mamau'r Metro a Syndod Shibuya

Ar y tren tanddaearol bore 'ma fe welon ni fam yn hebrwng ei dau blentyn bach i fynd i'r ysgol; fe gydiodd hi yn eu llaw nhw tan iddyn nhw gerdded ar y tren - ac wrth i'r drysau gau a'r tren dynnu bant - roedd y ddau, brawd a chwaer, jyst yn chwifio'n drist arni. Maen nhw'n gwisgo gwisg fel morwyr i fynd i'r ysgol fan hyn - wel y plant bach yma beth bynnag, gyda hat fach wen hefyd. Alla i ddim dychmygu Mamau'n Llundain nac Efrog Newydd yn hebrwng eu plant i'r ysgol yn yr un modd. Ond dyw'r ddinas 'ma ddim fel pe bai mor beryglus a hynny i gyd - gobeithio nad ydw i'n temtio ffawd wrth ddweud nad y'ch chi'n pryderi gormod am pick-pockets...

Ddoe ethon ni i ardal Shibuya - ac roedd croesffordd anhygoel ar stryd brysur tu hwnt - lle roedd pobl yn cael croesi i bob cyfeiriad, yn cynnwys ar y diagonal, pan roedd y dyn gwyrdd yn dangos.
Dafliad carreg bant roedd rhyw fath o orymdaith lle roedd torf o bobl yn yr un gwisg yn cario shrine, dan lafarganu. Ron nhw'n dilyn lori fach lle roedd plant ac oedolion yn canu clychau a drymiau. Ac er y glaw, ron nhw hefyd yn cario lanternau ar bolion hir neu'n dawnsio'n egniol ac yn edrych yn hapus tu hwnt. Dy'n ni ddim yn siwr pa grefydd on nhw, ond ron nhw werth eu gweld.

No comments: