Saturday 20 September 2008

Ar goll heb gyfieithiad: TOKYO

Ar ol tua deuddeg awr o daith awyren o Rhufain i Japan fe gyrhaeddon ni Tokyo -a guess be? Dechreuodd hi lawio. Mae patrwm fel pe bai'n dechrau! Llwyddon ni gyrraedd y gwesty yn ddi-drafferth ac ethon ni mas yn syth i'r ddinas anferth 'ma i chwilio am swper.

Argraffiadau cynta? Dinas anferth, fel Efrog Newydd, ond yn llawn sgrifen Siapaneiaidd a llawn pobl Siapaneiaidd. Roedd y Lonely Planet yn argymell rhai llefydd yn Ueno, lle ry'n ni'n aros. Ond sylweddolon ni'n gloi na fyddai'n hawdd i ffeindio yr un ohonyn nhw gan nad on ni'n gallu darllen enwau unrhyw un o'r arwyddion! Dim ots, ar ol cael ein gwrthod am ryw reswm mewn un bwyty (0edd e'n llawn falle??!) fe gethon ni groeso mewn bwyty arall. Ar ol pwyntio at lun o bryd oedd yn edrych yn ddigon deche - gethon ni noodles blasus fel ein pryd cynta.

Ar ol swper, roedd yr awyrgylch yn teimlo fel pe bai wedi newid, ond falle taw'r ardal oedd e. Roedd llwythi o fenywod pert ar y stryd, yn gwisgo ffrogie fel mae morwynion priodas gatre yn gwisgo, yn ceisio denu dynion. Un peth sy'n dda - do'n nhw ddim yn trafferthu ceisio'n denu ni - gan ein bod ni mor amlwg yn dramorwyr, falle!

Heddi, o feddwl ein bod ni wedi dihuno'n llawn blinder jet-lag, llwyddon ni neud lot o bethe (ac roedd hi'n braf). Amgueddfa Genedlaethol Tokyo bore 'ma - oedd yn llawn celfwaith diddorol o gyfnod cynnar Japan hyd heddi; tro drwy barc Ueno lle roedd temlau trawiadol, llyn llawn planhigion a chrwbanod yn nofio gyda'r pysgod coi. Wedyn ar y tren tanddaearol i weld teml Senso-ji yn ardal Asakusa a phrynhawn 'ma ethon ni i ardal y Cwmwl Grafwyr i weld yr olygfa o Tokyo gyfan. Ac mae fel carped o flerdwf trefol... dinas am gyhyd a gwelech chi... Anferthol.

Mae'n rhyfedd ffili deall yr arwyddion, ond mae'n wych cael bod 'ma. Mae fel parallel universe rywsut....

No comments: