Friday 26 September 2008

NARA

Dihunon ni'r bore yma ynghanol storm o fellt a tharannau, felly ar ol aros rhywfaint i'r glaw gilio ychydig, chyrhaeddon ni ddim 'mo Nara tan ar ol hanner dydd. Prif ddinas gyntaf Japan yw Nara, ond oherwydd cred Shinto yn ymwneud a marwolaeth, yr arfer oedd i symud prif ddinas bob tro y byddai'r ymerawdwr yn marw.

Beth bynnag, er ein bod ni'n gwbod y byddai hi'n bwrw, darllenon ni ei bod hi wirioneddol werth mynd i weld y ddinas a chafon ni 'mo'n siomi. Mae neuadd pren mwya'r byd yn Nara - teml Todai-Ji. I gyrraedd yno rhaid cerdded drwy barc lle mae gyrr o geirw dof yn byw. Roedden nhw yn hynod bert ac roedd hi'n hyfryd eu mwytho. Gwylion ni un fenyw oedd wedi prynu bisgedi i'w bwydo nhw yn mynd i drafferth wrth i chwech neu saith o geirw barus ei hamgylchynu. Chafodd hi ddim mwynhau'r broses o'u bwydo wrth iddyn nhw'u dilyn hi'n egr... Taflodd hi nhw yn y diwedd ond i gael gwared arnyn nhw!

Teml Fwdaidd ar gyfer gweddio dros heddwch a chyfoeth yw Todai-ji mae'n debyg - a thu fewn i'r deml anferth yma mae yna ddelw pres anferth o'r Bwda Vairocana mawr ei hun. Mae'n enfawr - ac mae'n debyg ei fod wedi colli ei ben, druan, ambell i dro, mewn rhyfeloedd a thannau gwahanol. Un o'r pethau i ddifyrru'r tyrrau o blant sy'n ymweld a'r lle yw'r cyfle i geisio sicrhau llewyrch iddyn nhw a hynny drwy wasgu eu hunain drwy dwll bach yn un o'r pyst mawr sy'n cynnal yr adeilad. Mae'r twll fod i fod yr un faint a thwll trwyn Bwda! Ron i'n ystyried cael tro hefyd, ond o gofio fy mod dipyn mwy o faint na rhan fwyaf o fenywod Siapan a bod rhai o'r plant yn cael trafferth, gwell oedd peidio...


No comments: