Ar ol gadael y mynyddoedd, mae bywyd y ddinas yn sioc i'r system braidd. Mae bron fel bod nol yn Ewrop. Cotiau, nid blancedi yw gwisg dinasyddion Buenos Aires. Does dim cawell dros ddrws siop y gornel, does neb yn gwerthu unrhywbeth ar y bysiau, ac nid ni yw'r bobl dalaf ar y strydoedd...
Doedden ni ddim yn ymwybodol cyn cyrraedd bod argyfwng iechyd yn y ddinas oherwydd y ffliw moch. Mae'r ysgolion wedi'u cau ar gyfer gwyliau'r gaeaf bythefnos yn gynnar er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledu. Yn y fferyllfeydd, mae hylif alcohol i lanhau dwylo ar ratiwn a phosteri ymhobman yn cynghori sut i osgoi'r haint. Mae digwyddiadau a chyngherddau wedi'u gohirio gan bod canllawiau newydd yn atal torfeydd rhag cwrdd dan do.
Ond, mae bwrlwm dal i fod yn Buenos Aires. Mae'r cerddwyr cwn yn dal i hebrwng llond llaw o perros lawr y strydoedd gyda nhw, a'r Archentwyr yn dal i gwrdd am mate yn y parciau. Mae tango yn San Telmo a gauchos yn y Feria de Mataderos. Yno maen nhw'n marchogaeth eu ceffylau mewn cystadleuaeth a'i gilydd i geisio picellu modrwy oddi ar bolyn bach tra'n carlamu cyn gyflymed a phosibl rhwng torfeydd o bobl. Mae'n edrych yr un mor annisgwyl ag y mae'n swnio. Er falle nid mor annisgwyl a gweld ci bach hapus yn marchogaeth merlyn heibio'r stondinau.
Rywsut, rwy'n credu cewn ni'n synnu gan lawer mwy o bethau yn BA. Achos, nid dim ond i fwynhau barrios hardd y ddinas y'n ni wedi dod yma. Ry'n ni wedi dechrau bron i fis o wirfoddoli mewn ardal lle nad yw'r gwasanaethau brys yn mentro - y Villas Miserias - trefi shanti Buenos Aires.
No comments:
Post a Comment