Monday 27 July 2009

Gwirfoddoli: y Gwych a'r Gwael


Pan glywodd Jakopo bod dwy o'i gyd-wirfoddolwyr wedi 'dangos symtomau tebyg i ffliw' fe ddaliodd yr awyren nesaf nol i'r Eidal. Ro'n i'n meddwl taw joc oedd y stori, ond mae'n debyg ei fod yn wir.

Mae sawl cymeriad yn gwirfoddoli gyda ni yn y villas, o gyn-fyfyrwyr Harvard, i 'bush workers' o Awstralia, i DJs o Lundain. Nid bod ots 'da'r plant pwy ddiawl y'n ni - ond eu bod nhw'n cael chwarae sgitls, cael eu hwynebau wedi'u paentio, neu lenwi taflen mathemateg fel y plant eraill, maen nhw'n hapus.

Ro'n i'n synnu bod y plant yn falch o'r cyfle i drin rhifau. Fe ddywedodd un ferch fach wrtha i yr wythnos ddiwethaf nad oedd hi erioed wedi gwneud syms o'r blaen. Ro'n i'n ei chredu hi, gan bod unrhyw beth mwy na 'un ac un yw dau' yn her iddi. Ond wrth i ni fynd drwy'r tasgau syml un wrth un, roedd hi wrth ei bodd, yn gofyn am fwy a mwy. Roedd hi eisiau'r taflenni i brofi i'w mam beth oedd hi wedi gallu gwneud.

Dyna'r adegau gorau pan ry'n ni'n gwirfoddoli.

Ond wedyn mae diwrnodau fel heddiw, pan mae'r cyfan fel ffradach. Tra bod dwsin o blant yn rhedeg ar ol ei gilydd rhwng y byrddau, mae bachgen a'i wyneb fel teigr wedi dringo i frig y goeden, merch arall wedi dechrau paentio'r ford, llaeth plentyn arall wedi arllwys dros y llawr, a dau o'r cwn lleol wedi gadael eu marc dros y grawnfwyd oedd fod yn fwyd i'r plant. Chi'n gadael gyda phen tost...

Ond nid ffliw! Mae'r ddwy wirfoddolwraig fu'n dost yn holl-iach unwaith eto erbyn hyn, a gweithgareddau'n parhau yn ol eu harfer... A Jakopo'n colli'r cyfan!


Tu hwnt i'r gwirfoddoli, ry'n ni wedi crwydro rhagor yn BA - o fedd Eva Peron yn Recoleta i gysgod stadiwm y Bombadera yn Boca. Ac er nad y'n ni eto wedi profi mate na Fernet, dau o ddiodydd arbennig yr Ariannin, ry'n ni wedi cael ein siar o 'carne Argentina' a dulce de leche. Wel, mae rhaid cefnogi cynnyrch lleol....

No comments: