Sunday 5 July 2009

Ballenas a Boobies : ISLA DE LA PLATA



Mae Isla de la Plata yn llawn rhamant.

Mas ar y môr mae morfilod cefngrwm ifanc yn gobeithio dod o hyd i gariad. Maen nhw'n dangos eu hunain; yn llamu, yn neidio'n glir o'r dwr a throi ar eu boliau hyd yn oed. Y cyfan er mwyn dangos pa mor gryf y'n nhw er mwyn denu'r merched...

Ar yr ynys ei hunan mae'r Blue Footed Boobies wedi paru am y flwyddyn yn barod. Fe ddewisodd y Fonesig Boobie ei chariad hi ar ôl dwli ar ddawns ei draed bach glas. Nawr maen nhw wedi dewis cartref crwn i'w hunain yn barod ar gyfer eu plentyn cyntaf, gyda golygfeydd gwych o'r môr. Ar ochr arall yr ynys mae'r Boobies ifanc wedi casglu gyda'i gilydd, fel criw dan-oed yn aros am gyffro na ddaw tan i'w traed nhw droi'n las i ddenu'r birds.

Ar graig gyfagos mae'r Nazca Boobies yn meithrin eu plant yn barod; cywion mawr fflyffi, eu cegau ar agor a'u gyddfau'n crynu i geisio oeri eu hunain yn y gwres. Bydd Mr a Mrs Nazca yn helpu ei gilydd i ofalu am yr un bach tan ei fod e'n gallu bwydo'i hunan. Wedyn, byddan nhw'n rhydd i baru 'da 'deryn newydd.

Un sy'n anghytuno a ymddygiad o'r fath yw'r Albatross gerllaw sy'n eistedd ar ei hwy. Er y bydd hi'n hedfan miloedd o filltiroedd ar ei phen ei hun ar hyd y tymhorau, mae'n gwybod y bydd hi a'i gwr yn gweld ei gilydd eto y flwyddyn nesaf - a bob blwyddyn tan ddiwedd eu hoes.

Dan y creigiau islaw mae morloi blewog yn cuddio a chrwbanod môr yn syrffio ar y llanw. Uwch eu pen mae'r lleidr, yr aderyn frigate, yn chwyldroi drwy'r dydd. Mae'n aros am gyfle i ddwyn ei ginio oddi ar ei gyd-adar, gan nad yw'n gallu pysgota ei hun...

Ydi, mae Isla de la Plata yn llawn cyffro ar hyn o bryd a Hywel a fi'n falch o'r cyfle i weld y cyfan...

No comments: