Ar ol taith dros nos ar y tren o Hanoi, rhaid gyrru ar hyd hewlydd troellog lan drwy'r mynyddoedd i gyrraedd Sa Pa. Tref sy wedi'i orchuddio a blanced o niwl, ac wedi'i amgylchynu a nifer o bentrefi lle mae llwythi o leiafrifoedd ethnig yn byw. Mae saith llwyth gwahanol yn byw o amgylch fan hyn, pob un a'i iaith, ysgrifen, gwisg ac arferion unigryw ei hun. Maen nhw'n dod i'ch croesawi wrth i chi gyrraedd, yn wengar iawn, gyda'r gobaith efallai y gwnewch chi wedyn brynu peth o'u brodwaith...
Felly, i ddathlu mhenblwydd, aeth Hywel a fi ar daith gerdded i ymweld a dau bentref - y cyntaf yn gartref i lwyth yr H'mong Du a'r ail yn gartref i ddau lwyth sy'n cyd-fyw - y Dao Coch a'r Gyiai. Ein tywysydd oedd Suli, merch ugain oed o bentref Dao Coch cyfagos. Roedd hi wedi dysgu Saesneg wrth siarad a twristiaid, ond yn siarad yr iaith yn wych, ac yn amyneddgar iawn wrth ateb ein holl gwestiynnau ac egluro popeth ro'n ni eisiau ei wybod am y llwythi.
Maen nhw'n byw mewn tai pren bychan ynghanol caeau reis, gyda'u ieir, moch a cwn yn crwydro o'u hamgylch. Menywod yr H'mong Du sy'n gwneud y brodwaith o edau hemp, a'u gwyr sy fwyaf cyfrifol am y ffermio. Maen nhw ond yn cynhyrchu digon o gnydau i fwydo'u hunain, ac yn gwerthu'r brodwaith i geisio prynu bwyd ychwanegol.
Ethon ni i ymweld a dwy ysgol, y cyntaf yn un cynradd, lle roedd y plant yn gofyn am bonbons. Ond fe rannon ni beth orennau a bananas rhyngddyn nhw yn lle taffis, gyda chaniatad eu hathrawes. Roedd yr ysgol uwchradd wedi cau erbyn i ni gyrraedd yno, ond drwy ffenest oedd wedi chwalu ro'n ni'n gallu gweld eu desgiau pren hen ffasiwn, a'r wyddor ar y wal, oedd yn dechrau gyda thri 'A' gwahanol!
Roedd y daith adref yn antur. Motobeics. Ry'n ni wedi llwyddo i'w hosgoi nhw tan nawr, ond doedd dim dewis y tro 'ma. Mae arna i eu hofn nhw, ac ro'n i hyd yn oed yn fwy ofnus o feddwl bod y glaw wedi gwneud y ffyrdd mor llithrig. Dim ond ffyrdd cul y'n nhw lan 'ma yn y mynyddoedd, ac roedd rhaid i fi ddal f'anadl a pheidio edrych lawr y dibyn ar adegau pan roedd y nentydd wedi gorlifo'n rhaeadrau reit gryf dros y ffordd. Ond cyrhaeddon ni nol yn saff, y ddau ohonon ni, a gethon ni win am y tro cyntaf ers yr Eidal i ddathlu penblwydd bythgofiadwy.
Diolch i bawb anfonodd gyfarchion penblwydd ata i hefyd, roedd e'n gret i glywed wrthoch chi. Diolch yn fawr xxx
No comments:
Post a Comment