Thursday 27 November 2008

Trwbwl yn Tai ond ddim i ni'n dau!



Y bore gadawon ni Laos fe welon ni ystlumod a llygod mawr wedi crebachu'n ddu ar werth yn y farchnad. Roedd cyrraedd gwlad lle roedd 'na Tesco's, strydoedd concrid a cheir cyfforddus yn teimlo braidd yn anniddorol. Ond rhyfedd pa mor gloi chi'n newid eich meddwl...

Chiang Mai oedd y stop cyntaf - tref sy'n hynod boblogaidd ar nos Sul, y noson y cyrhaeddon ni -noson y farchnad nos. Mae stondinau bwyd a chrefftau yn llenwi'r tir o amgylch y temlau a'n gorlifo i'r brif stryd nes nad oes lle i draffig. Dim ond pobl a pherfformwyr cerddorol sy'n achosi'r jam, gyda dim lle i symud bron! Ond yn ystod y dydd, mae'n dref hollol wahanol - y temlau'n dipyn mwy urddasol a'n sgleinio dan olau'r haul tanbaid. Mae'r strydoedd fwy neu lai yn wag, a chi'n cael y teimlad bod yr holl falangs, y tramorwyr, wedi heidio o'r dref... i chwilio am y Karen efallai. Un o'r llwythi lleiafrifol sy'n byw tu fas i Chiang Mai yw'r Karen. Mae ganddyn nhw yddfau hir gan eu bod nhw'n gwisgo cymaint o fwclisau (yn ol un chwedl er mwyn atal teigrod rhag eu cnoi nhw.) Ond, er i ni ymweld a phentrefi lleiafrifol yn Fietnam a cherdded drwy un arall yn Laos, roedd y syniad o fynd i weld y Karen yn teimlo ormod fel mynd i sw dynol.

Yn lle hynny, gethon ni wers goginio bwyd Tai. Ond tra'n bod ni'n llosgi'n tafodau ar chilli a basil sanctaidd, do'n ni ddim yn ymwybodol bod pethe'n poethi draw yn Bangkok. Mae'n hen hanes nawr bod protestwyr yn erbyn y llywodraeth wedi meddiannu'r maes awyr ac achosi anrhefn yn y ddinas. Mae'n debyg bod dyn wedi'i saethu yn Chiang Mai hefyd, ond welon ni ddim byd. Dim byd ond lluniau ar y teledu ac erthyglau ar y we. Ond nid dyma'r math o gyffro fyddai unrhyw un yn dymuno'i gael dramor, yn enwedig gan i Hywel orfod roi ei ben nol mewn i ger gwaith wrth siarad a Gareth Glyn dros y cyfrifiadur ar gyfer y Post Prynhawn... Bu'n rhaid i ni anfonon e-byst adre hefyd i wneud yn siwr nad oedd neb yn poeni'n ddi-angen amdanon ni.

Heddi ry'n ni wedi bod yn cerdded drwy olion hen ddinas frenhinol Sukhothai; Y Frenhiniaeth Thai annibynnol cyntaf, gafodd ei sefydlu nol yn y 13G. Ro'n i'n teimlo fel pe baem ni'n cerdded drwy olion gwareiddiad coll wrth gerdded heibio colofnau tal tywyll oedd yn gwarchod Bwdas llonydd, a'r colomenod yn troelli uwchben.

Ond y cyffro mwyaf, oedd nid rafftio dwr gwyn ar afon Maetang, nid bwyta salad papaya nethon ni'n hunain, nid y bang bangio yn Bangkok.... ond goroesi trip ar gefn motobeic a Hywel yn gyrru. Ond yr unig ffordd i fi beidio cwyno'n ofnus fel babi dros bob bwmp a thro yn y ffordd oedd cael massage thai ar y ffordd adref. Ac yn lle cwyno'r holl ffordd adre, fe hedfanais i'n lle.

No comments: