Saturday 8 November 2008

Hoi An: "Same Same but Different"



"Same Same but different" - brawddeg mae teithwyr eraill wedi dweud wrthon ni sy'n cael ei ddefnyddio'n aml yma yn Hoi An. Ry'n ni erbyn hyn wedi clywed y frawddeg sawl gwaith, ond dy'n ni'n dal ddim yn siwr beth mae e'n ei feddwl. Ry'n ni'n dyfalu mai rhywbeth i'w wneud a gwerthu copiau o nwyddau gwreiddiol yw e, neu falle ddweud bod pris yr un fath mewn siop arall ond bod y safon yn wahanol... S'mon ni'n siwr.

Beth bynnag, mae Hoi An yn debyg i bob man arall yn Fietnam, ond yn wahanol. Dyma fy hoff le i yma hyd yn hyn. Mae'n dref fach ger y mor oedd wedi tyfu'n wreiddiol fel canolfan fasnachu rhyngwladol - ac roedd Siapaneiaid a Tsieiniaid wedi dod yma i brynu'r cerrig gwerthfawr a'r sinamwn oedd ar gael. Rywsut, chafodd Hoi An mo'i ddifrodi yn ystod yr holl ryfeloedd sydd wedi digwydd 'ma ac mae pensaerniaeth y dref yn hardd tu hwnt. Mae llusernau bach lliwgar yn goleuo'r strydoedd, a swn cerddoriaeth a dawnsio traddodiadol yn cystadlu a bwrlwm y farchnad hynafol. Siopau teilwra yw'r rhan fwyaf sy 'ma nawr, ond mae Hywel a fi'n gwrthsefyll y demtasiwn o brynu dillad rhad wedi'u gwneud yn arbennig i ni.

Yn wahanol i Hoi An, lle gafodd ei ddinistrio'n llwyr yn ystod rhyfel Fietnam yn y chwedegau a'r saithdegau oedd Vinh Moc; pentref pysgota yn yr ardal sydd bellach yn cael ei alw yn DMZ, y Demilitarized Zone. I lochesi rhag y bomiau, fe balodd y pentrefwyr dan eu cartrefi gan greu rhwydwaith o dros 50 twnel. Bu tua tri chant o bobl yn byw yno am saith mlynedd tan i'r rhyfel ddod i ben. Yn yr amser hwnnw cafodd 17 o fabanod eu geni. Wrth grymu'n cefnau drwy'r twneli, roedd Hywel a fi'n rhyfeddu gynlleied o le oedd gan bob teulu i fyw - llai na 4m² yr un. Ond ro'n nhw'n dal i gyd-ganu ambell i noson, neu wylio ffilm Cheiniaidd neu Rwsiaidd yn yr un ystafell gyfarfod oedd ganddyn nhw.

Cyn dod i Hoi An - bu'r ddau ohonon ni'n crwydro drwy strydoedd cyn brif-ddinas Fietnam, Hue. Yno roedd citadel yr hen ddinas Imperialaidd oedd yn debyg i'r 'Forbidden City' yn Beijing, ond ar raddfa lai. Ar daith ar hyd yr 'Afon Bersawr' frown, fe welon ni pagodas a mauseoleums brenhinol cyn-ymerawdwyr Fietnam. Ro'n nhw wedi adeiladu pentrefi mawreddog fel beddi i'w hunain a'u cannoedd o wragedd a concubines. Mae llun yma hefyd o Tam Coc, Ninh Binh; lle sy'n cael ei ddisgrifio fel Bae Halong y tir. Yma mae rhwyfwyr cychod sampan yn defnyddio'u traed i gludo teithwyr i weld y talpiau calchfaen trawiadol sy'n codi o'r dwr (cyn defnyddio technegau amheus ofnadwy i geisio’n gorfodi i brynu nwyddau oddi wrthyn nhw.) Bu'n rhaid mynd ar ein cwrcwd i deithio drwy ogofau isel iawn i osgoi bwrw'n pen ar y to. Lle hardd tu hwnt lle roedd geifr ffol yr olwg yn gafael yn dynn i ddibyn y graig, a byffalos a’u lloi yn ymdrechu i gadw’u pen uwchben y dwr.

Ond yn Hoi An y’n ni nawr, yn aros i’r glaw gilio a’r haul ail-ymddangos. Profiad ry’n ni wedi’i gael sawl gwaith o’r blaen yn Fietnam.
Yr un peth... ond yn wahanol.

1 comment:

Unknown said...

ma hywel yn edrych fel y bfg yn y llun na! :)