Thursday 20 November 2008

VANG VIENG: Lan y Mynydd, Dan yr Ogof, Lawr yr Afon



Roedd ‘na Sais, Albanwr a Gwyddeles ar y bws mini i Viang Vieng yn barod. Pan gyrhaeddon ni, ro’n nhw wrth eu bodd ein bod ni’n cwblhau’r hen joc. Ro’n ni gyd ar ein ffordd i’r dref sy’n fecca i deithwyr sydd eisiau’r cyfle i diwbio lawr afon Nam Song.

Dyna i gyd yw tiwbio yw eistedd mewn olwyn rwber fawr ac arnofio lawr yr afon. Ond yma, mae cyfres o dafarndai bach ar y lan, lle gallwch chi dorri syched ar y ffordd. Ar ein taith ni yn y tiwb, fe welon ni’r Gwyddelod gyda’i gilydd yn y bar, yr Albanwr yn chwerthin wrth arnofio heibio yn ei diwb, a’r Sais braidd yn gallu cerdded wrth fynd nol i’w olwyn e, plaster am ei ben a rhwyg mewn man anffodus yn ei shorts ar ol syrthio’n feddw i’r dwr yn gynharach. Dyna ddiwedd y joc yna te...

Nid tiwbio oedd uchafbwynt Vang Vieng i ni, ond cael cyfle i gerdded ymhell o’r dref a’i tv bars i ganol y jyngl. Ar adegau, roedd rhaid i’n tywysydd, Lay, ddefnyddio cleddyf mawr i dorri’r deiliach o’r llwybr o’n blaen. Aeth e a ni dros greigiau, drwy afonydd, lan a lawr mynyddoedd, heibio heidiau o bili-palaod ac i ogofau sych a gwlyb yng ngolau cannwyll. Gydol yr amser, roedd e’n siarad yn frwdfrydig am beth oedd o’n hamgylch – y coed banana a mango, y dail sinsir a’u gwraidd, y lindys blewog gwenwynig, cân y gecko lwcus a traddodiadau Laoeg eraill.

Ar ôl noson o gwsg mewn caban pren ar lan yr afon, lle roedd mwnci bach, druan, yn cael ei gadw’n gaeth, bant a ni lawr y Nam Song i ganwio’r holl ffordd nôl i’r dref.

Do, fe gwmpon ni mewn ar un adeg, a do, cafodd fy mhwrs ei ddwyn o’r lan ar adeg arall, a nawr ry’n ni’n dal wedi blino ar ol yr holl antur! Ond allen i’n bendant argymell taith dros brif-ffordd tyllog a throellog Laos draw i Vang Vieng, a’n sicr nid dim ond i fynd i tiwbio.

No comments: