Sunday 5 October 2008

HOKAIDO: 'Quasi' Parc Cenedlaethol Onuma

Ron i'n meddwl ar y tren ar y ffordd i'r 'Quasi' Parc Cenedlaethol 'ma tu fas i Hakodate nad oes darlun llawn 'da fi eto o sut beth yw bywyd bob dydd na beth mae pobl Japan yn hoffi ei wneud i ymlacio. Ac yna wrth i ni gyrraedd, fe welon ni dren y beics...! A bod yn deg, siwr o fod taw twristiaid fel ni on nhw... Ac ar ol cael ein hysbrydoli - penderfynodd Hywel a fi logi beic tandem i feicio rhyw 12 km rownd llyn y 'quasi' parc. Roedd y dail yn dechrau troi lliw, a gethon ni flas o'r lliwiau fflamau fydd yn cydio yng ngweddill coed yr ardal dros y misoedd nesaf.

Ry'n ni nawr yn y man mwyaf gogleddol ewn ni yn Japan. Ro'n ni wedi meddwl mynd ymhellach, ond byddai fe'n cymryd gormod o amser ar y tren. Porthladd yw Hakodate, ac un o'r llefydd cynta i agor er mwyn masnachu a gwledydd tramor ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly mae'n fwy gorllewinol na llawer o'r llefydd eraill ry'n ni wedi'i weld. Ddoe aethon ni i ardal Motomachi lle mae 'na Eglwys Orthodox Rwsiaidd, Eglwys Babyddol, Eglwys Episcopalaidd a Chysegrfan Fwdaidd o fewn taflaid carreg i'w gilydd. Fel mae'n digwydd, rhaid tynnu sgidie i fynd i'r Eglwys Babyddol yma, fel sydd rhaid gwneud i ymweld a themlau Bwdaidd hefyd. Ethon ni hefyd i farchnad, lle roedd squids byw gyferbyn a thanciau gorlawn o grancod anferth. Wedyn, ymwelon ni a amgueddfa ynglyn a'r Ainu, pobl frodorol ynys Hokkaido, oedd, mae'n debyg, a nodweddion corfforol gwahanol i bobl eraill Japan - llygaid dwfn a gwallt garw.
Beth bynnag, nol at arferion bob dydd pobl Japan. 'Na i gyd rwy'n ei wybod yw eu bod nhw'n hynod barchus, cyfeillgar a pharod i helpu, a'u bod hefyd yn ymddiheuro o waelod calon os y'n nhw'n meddwl eu bod nhw wedi gwneud unrhywbeth o'i le. (Mae hyd yn oed peiriannau diodydd yn diolch i chi - ar lafar - am brynu can ohonyn nhw.) Os y'n nhw'n dost dan annwyd, maen nhw'n gwisgo masg rhag lledu haint, ac i yrru, fe wisgan nhw fenig. Pan gerddwch chi i fwyty - bydd pob un o'r gweithwyr yn eich croesawi, a phawb, hyd yn oed y chef yn dweud diolch wrthoch chi pan adewch chi... Mae nifer o'r merched (yn enwedig yn Tokyo) yn cymeryd gofal mawr o'u golwg - dillad gorgeous a gwallt perffaith, gyda phob blewyn yn ei le... Mae pawb yn dwli ar bethe 'ciwt' - mae hyd yn oed arwyddion gan y llywodraeth yn cynnwys cartwns ciwt, felly hefyd gloriau draens... Mae Pachinko yn boblogaidd iawn - canolfannau lle mae modd chwarae peiriannau slot. Maen nhw ymhobman, a'u cerddoriaeth fecanig aflafar yn chwarae mas i'r stryd. Mae hwnna'n beth arall - cerddoriaeth - dyw pryd ddim yn gyflawn heb muzak o ryw fath yn y cefndir... Maen nhw hyd yn oed yn chwarae cerddoriaeth ar uchel seinyddion ar y stryd...

Ond, beth maen nhw'n ei wneud yn y nos heblaw pachinko... dy'n ni ddim yn siwr. Ethon ni mas neithiwr i geisio dod o hyd i gaffi i gael teisen a diod, ond heb lwc. Roedd y strydoedd i gyd yn wag a dim bwrlwm yn unman.... Ar ol ffili ffindo'r caffi, ethon ni i siop a phrynu donut - un cylch arferol i fi - ac un curry i Hywel.... Ie, donut curry sy'n un o ddanteithion Hakodate.... (Mae e'n dweud na ruthrith e i fwyta un arall.)

No comments: