Thursday 23 October 2008

Helo Hanoi!



Os yw hi'n fore da yn Fietnam, mae'n sicr yn fore cynnar. Mae'r awdurdodau lleol ym mhob ardal yn y ddinas 'ma yn cyhoeddi bwletinau newyddion ar uchelseinyddion ar y strydoedd - ac maen nhw'n dechrau am chwech o'r gloch y bore! Mae'r cyhoeddiadau, mae'n debyg, yn cynnwys cynghorion ar fywyd cymunedol ac yn atgoffa pobl o'u dyletswyddau i'r fyddin!
Ry'n ni'n aros yn hen ardal brysur Hanoi; dryslwyn o strydoedd cul sydd dal ag arwyddion amlwg o gyfnod y Ffrancwyr yma. Mae heidiau o feiciau modur swnllyd yn brwydro am le ar hyd y ffyrdd yn erbyn ambell i horwth gyriant pedair olwyn, seiclos bondigrybwyll a'r menywod sy'n gwerthu eu nwyddau o fasgedi wedi'u hongian o'u hysgwyddau. S'dim lle i gerdded gan bod y palmentydd naill ai wedi'u gorchuddio gan feiciau modur wedi'u parcio, neu gan bod y siopau neu'r bwytai bach anffurfiol wedi gorlifo mas i'r stryd. Does dim ofn 'da phobl gario llwythi heglog iawn yma chwaith. Ry'n ni wedi gweld beiciau modur yn cario degau o focsys, a menywod yn cludo pentyrrau o grochenwaith amrywiol ar feic oedd wedi'i addasu'n arbennig.
Wrth grwydro drwy'r strydoedd daeth hi'n amlwg bod pob stryd yn gyfrifol am werthu nwyddau gwahanol. Cerddon ni lawr stryd yr angladdau, stryd y priodasau, stryd i werthu lampau, un arall i werthu loshin, stryd y garages, stryd i werthu mygydau... Mae 36 stryd i gyd.
Roedd ci wedi'i fygu ar y fwydlen amser cinio, salad mango a dryw a nifer o fwydydd eraill fel criced wedi'i rostio a chawl pen neidr... Roedd e'n neud i fi feddwl falle taw nid fel anifeiliaid anwes roedd y caetsh gorlawn o adar bach ar werth yn y farchnad yn gynharach. A beth am y caetsh oedd yn cynnwys y ddau gi bach 'na? Allen nhw ddim fod ar werth fel bwyd allen nhw? Roedd e'n fy atgoffa i o farchnad yn Ffrainc pan on i'n fach a finne'n dotio ar gaetsh llawn cwningod, a 'Nhad yn neud i fi lefain wrth ddweud wrtha i beidio gwastraffu'n egni gan y bydden nhw ar blat rhywun erbyn diwedd y dydd....
Ma 'na stori arall 'ma sy'n fy atgoffa i o stori Caledfwlch mewn ffordd rownd a bowt 'fyd. Mae 'na lyn ynghanol Hanoi, Hoan Kiem, 'Llyn y Cleddyf Dychweledig'. Yn ol y chwedl, roedd y brenin, Le Thai To, ar gwch ar y llyn yn y bymthegfed ganrif pan ddaeth crwban anferth ato fe a llyncu y cleddyf aur roedd e wedi'i ddefnyddio i drechu'r gelyn Minh. Ma 'na grwban anferth gafodd ei ddarganfod yn Hoan Kiem wedyn wedi'i gadw mewn blwch gwydr yn nheml, Ngoc Son ar y llyn nawr. Ond roedd well 'da fi'r crwban bach mosaic oedd ar y wal i groesawi pawb, gan gario'i gleddyf aur yn falch ar ei gefn.

No comments: