Thursday 16 October 2008

Beijing Newydd Beijing Hen a CHWY PY!!


Un funud chi'n cerdded rhwng cwmwl grafwyr sy mor newydd dy'n nhw ddim wedi'u cwblhau eto, a'r funud nesa chi'n cerdded ar hyd strydoedd cul lle mae cenhedlaethau o bobl y ddinas wedi crafu byw am ganrifoedd. Mae pawb ry'n ni wedi siarad a nhw yn dweud gymaint mae Beijing wedi newid dros y ddegawd neu'r ugain mlynedd ddiwethaf, ac mae olion o hynny ymhob man.

Fe welon ni un ardal bore 'ma, tu ol i Sgwar Tiananmen, oedd newydd ail-agor ar ol cael ei ailwampio yn stryd siopa newydd ond yn yr un arddull ag oedd yna'n wreiddiol. Roedd y brif stryd dal yn wag heb yr un siop wedi symud mewn eto, ond bod bysiau llawn o dwristiaid Cheiniaidd yn crwydro yno beth bynnag. Ond, doedd y datblygiad ddim wedi cyrraedd y stryd siopa gyferbyn eto. Rhwng yr hen stondinau yno roedd ambell i beth oedd yn edrych fel cwt, ond mai cartref gyda digon o le i wely a dim arall oedd yno.
Ethon ni i gael pip ar yr adeiladau Olympaidd echddoe, ond ddoe yr ennillon ni fedal arall dros Gymru.... Wel, ym meddwl Hywel beth bynnag! Ni oedd y cynta mas o'n grwp ni o deithwyr o bob rhan o'r byd i gerdded dros 10km ar hyd Wal Fawr Tseina. Teir awr gymerodd hi i ni gerdded i Simatai a doedd hi ddim yn rhwydd bob amser. Mewn mannau roedd y llwybr wedi cwympo bant i gyd. Fel yn y twr lle buodd Hywel a fi'n trio asesu os oedd y cwymp o rhyw chwe troedfedd ond i'r dde rywfaint, nid yn syth lawr, yn rhy bell ai peidio. Penderfynodd Hywel ei fod e ac fe drodd e nol... Ond yr un pryd fe benderfynes i fynd amdani... Gollwng fy hun lawr, a difaru'n syth.... 'Na lle on i yn hongian o ffenest un o dyrrau Wal Fawr Tseina, yn gorfod galw ar Hywel am help ac yn dweud bo fi'n ofni bo fi ar fin marw.... Roedd cwymp o dros ddeuddeg troedfedd os na lanien i ar silff oedd rhyw chwe troedfedd i'r dde. Roedd Hywel eisiau trio nhynnu i nol lan, ond ro'n i'n gwbod mai dim ond un ffordd oedd 'na - a lawr oedd hwnnw... Wel na i gyd sy ishe dweud yw - os bydd Angelina Jolie fyth eisiau stunt double ar gyfer rhyw Tomb Raider ffilm arall, nid fi ddylai hi alw...

Un peth am yr hen sy'n byw yn Beijing - maen nhw'n joio cadw'n ffit. Mae rhai yn neud tai chi mas yn y parciau, ac mae eraill yn cymryd mantais o'r gyms awyr agored sy 'da nhw 'ma. Ma 'da nhw beiriannau rhedeg, pwysau, olwynion i droi, bariau... pob math ar beth. Ac un peth am y rhai sy newydd ddod i'r byd 'ma yn Beijing - maen nhw'n gwisgo trowsusau bach sydd a hollt ar y pen ol fel pan mae galwad natur yn dod 'na i gyd sydd rhaid i'w rhieni neud yw eu hongian nhw wrth bwys coed wrth ochr y ffordd iddyn nhw gael neud eu busnes... Jyst fel 'na.... Cyfleus yntyfe!!

Ok, felly falle nad yw Beijing a'i smog a'i thraffig gwallgo yn berffaith o bell ffordd, a falle dyna pam bod ymerawdwyr y gorffennol wedi cael casgliad o balasau, nid yn unig ynghanol y ddinas, ond hefyd ar ei chyrion - Palas yr Haf. A gallwch chi faddau llawer i ddinas sy'n cynnwys golygfeydd fel rhein...

Wel, ni ar ein ffordd i Hong Kong fory. Ond cyn gadael. CHWY PY! Swn fydda i'n cysylltu a Beijing am byth... Swn dynion y ddinas sy'n poeri fflem pryd bynnag a ble bynnag maen nhw eisiau... yn y theatr hyd yn oed...

No comments: