Saturday 11 October 2008

BEIJING: Bwrlwm, bwyd a blodau



Falle taw dim ond rhyw dair awr mewn awyren sy'n gwahanu Tokyo a Beijing, ond mae'r lle 'ma fel byd arall. Ar ol cael ein trin mor barchus yn Japan, roedd hi'n sioc cael pobl yn dod aton ni yn ceisio gwerthu tacsis, gwestai neu teithiau rickshaws i ni cyn gynted ag y cyrhaeddon ni orsaf ganolog Beijing. Ry'n ni wedi dysgu 'bushi' - NA - yn Mandarin yn gloi iawn, pan na ddefnyddion ni 'iie' (na) unwaith yn Japan!

Roedd cael ein gollwng ar waelod gwli cul, un o'r 'hutongs,' a'r gyrrwr tacsi yn amneidio arnon ni mai 'lawr fanna' oedd ein hostel yn sioc arall. Roedd parc bach concrit ar y gornel lle roedd hen ddynion yn chwarae chess neu ping pong, a grwpiau o bobl o bob oed yn cicio folis gyda rhywbeth oedd yn edrych fel plu ar 'pyc' rwber. Ar hyd y gwli roedd grwpiau o fenywod yn chwarae cardiau o amgylch bocsys, eu golch yn hongian ar y welydd tu ol iddyn nhw, a gwynt ansawrus yn dianc o'r tai bach cyhoeddus gerllaw... Ond - tu ol i ddrws caedig, daeth i'r amlwg bod ein hostel ni yn hen lys trawiadol, gyda lampau cheiniaidd ac addurniadau traddodiadol ymhobman.

Ar ol crwydro drwy ragor o hutongs a gwynto gwynt golosg a caramel poeth bob yn ail fe anelon ni am fwyty mewn ardal ger tri llyn sy'n boblogaidd yn y nos, ardal Houhai. Ymysg y danteithion ar y fwydlen, roedd neidr wedi ffrio, crwban wedi rhostio, neu gaserol marchlyffant (bullfrog!) Ond roedd blasau'r porc a'r cig eidion gethon ni mor gryf a blasus, a fel dim arall y'n ni wedi bwyta ar ein taith hyd yma.

Cyn gadael y bwyty fe hwpodd y weinyddes dusw o flodau melyn hyfryd mewn papur porffor i fi. Sai'n gwbod pam roiodd hi nhw i fi, ond ro'n i wrth fy modd yn cerdded nol gyda nhw rhwng y bobl leol oedd yn dawnsio gyda'i gilydd tu fas ar y stryd a goleuadau'r bwytai yn adlewyrchu ar y llyn.

Heddi, gwelon ni ragor o ddawnsio a chanu ym mharc Jingzhan. Wrth grwydro ar hyd y llwybrau, ry'ch chi'n clywed swn corau answyddogol yn canu gyda'i gilydd; rhai i gyfeiliant offerynnau, a rhai o amgylch menywod yn dawnsio dawnsfeydd traddodiadol yn frwdfrydig. Fel wedodd Hywel, anodd dychmygu pobl ardal Parc Fictoria yn cwrdd i neud yr un peth ar fore Sadwrn. Wedyn fe wynebon ni'r torfeydd dirifedi yn y ddinas waharddedig, hen gartref ymerawdwyr y cyfnod Ming a Qing. Lle llawn rhyfeddodau. Fe gerddon ni wedyn drwy Sgwar Tiananmen. Heno hefyd ethon ni i weld un o'r sioeau mwyaf bythgofiadwy i fi weld yn fy myw. Sioe acrobatig anhygoel. I goroni'r cwbl - swper o hwyaden rhost Beijing. Gethon ni hyd yn oed dystysgrif i nodi rhif arbennig yr hwyaden fyton ni!

1 comment:

Ess said...

Glad to hear you've arrived and all well, Ela would have realy enjoyed seeing that acrobatic show looks fab! Enjoy xx