Tuesday 5 May 2009

VALPARAISO: Lliwiau Llachar



"Chi! Chi! Chi! Le! Le! Le! Los trabajadores de Chile!"

Fe glywon ni'r drymiau a gweiddi'r orymdaith o strydoedd hardd amgueddfa awyr agored ardal Bellavista. Y diwrnod cyn hynny, yr unig swn ar y strydoedd oedd ein camau ni a cerddoriaeth swynol yn dianc o ambell dy. Ond y diwrnod yma oedd y cyntaf o Fai: diwrnod gweithwyr Chile i brotestio.

Ar sgwar Fictoria, roedd anerchiadau grymus i'r 'trabajadores' a'r 'trabajadoras' oedd yn eu tro yn chwifio baneri Che Guevara, y cryman a'r seren, neu'n gwisgo crysau-t cyn arweinydd sosialaidd y wlad, Salvador Allende. Roedd y cyfan yn heddychlon iawn; cerddorion, dawnswyr a chyd-ganu gwerin... nes i ni weld un boi yn gwisgo cwcwll yn gwthio bin mawr ar ei ochr ar ganol y stryd.

Erbyn y bloc nesaf, roedd yr heddlu wedi'i ddal e, a cyfres o gerbydau arfog wedi symud mewn. Mas ohonyn nhw daeth rhesi o swyddogion yn gwisgo helmedau a thariannau. Ar ol sylwi ar bobl yn cario polion trwm, hir, fe adewodd Hywel a fi ar frys.

Ond nid dyma'r Valparaiso sy'n denu'r ymwelwyr a'r artistiaid. Mae'n le llawn rhamant, gyda tai lliwgar yn arllwys lawr y bryniau blithdrafflith tuag at borthladd prysur - lle mae'r llongau fel cysgodion yn y niwl. Golygfa ddenodd un o feirdd mwyaf Chile, Pablo Neruda, i adeiladu cartref i'w hunan yma.


Er bod yr adeiladau hardd wedi gweld eu dyddiau gorau, eu paint yn pylu a phlisgo a'r palmentydd yn dyllog a drewllyd mewn mannau - mae'r welydd wedi'u haddurno a pheth o'r graffiti mwyaf creadigol erioed. Ar welydd, ar ddrysau, ar risiau ardaloedd Concepcion ac Alegre, mae lliwiau a lluniau ymhob man...

Erbyn hyn, ry'n ni yn La Paz yn Bolivia - lle gwahanol iawn i Chile...

No comments: