Wednesday 20 May 2009

COCHABAMBA, SUCRE a POTOSI



Ers gadael La Paz mae pob man ry'n ni wedi ymweld a nhw wedi bod yn dathlu. Dathlu dwr yfed i bawb am y tro cyntaf oedd pobl Cochabamba. Roedd llwyfan mawr yn y sgwar, gyda band o gerddorion yn chwarae gitars bach a mawr, pibau a drymiau - a menyw wrth eu hochr yn taflu letys mas i'r dorf!

Do'n ni ffili help meddwl taw'r gwleidyddion lleol oedd wedi trefnu'r cyfan er gorfoledd iddyn nhw'u hunain - ond roedd y bloeddiadau o "Tenemos Agua! Viva Cochabamba! Viva Bolivia!" yn llawn angerdd beth bynnag.

Yn edrych lawr ar y dathliadau i gyd roedd Iesu mwya'r byd. Ar ol gweld Buddhas mwya'r byd, yn eistedd neu'n gorwedd yn ne ddwyrain Asia a Japan, roedd hi ond yn deg i ni fynd i weld Iesu mwya'r byd. Ac roedd e'n fawr hefyd. Aeth Hywel mewn i'w ganol e a tynnu lluniau mas o'i gesail...

Yn Sucre, dathlu 200 mlynedd rhyddid oddi wrth Sbaen oedden nhw. Neu maen nhw.... bob nos am fis! Roedd y prif sgwar yno yn llawn nid dim ond un dathliad - ond nifer; llwyfan o gerddorion yn un cornel, ffilm o hanes y brifddinas yn y gornel arall, band pres yn y canol, a gorymdaith o fechgyn ifanc mewn siwtiau gwyn, coch ac aur yn camu fel milwyr drwy'r cyfan... Ac ambell i cracker tan gwyllt yn lledu mwg rhwng welydd yr adeiladau gwyngalchog hardd.

A nawr, ry'n ni yn Potosi - dinas ucha'r byd - lle mae rhagor o orymdeithiau; protestiadau yn y dydd a dathliadau dau ganmlwyddiant gyda'r hwyr hefyd. Mae'r lle 'ma'n cael ei ddisgrifio fel un o'r llefydd tristaf yn Bolivia. Does dim rhyfedd o feddwl bod cannoedd o filoedd o bobl Quechua'r ardal wedi'u lladd yma wrth fwyngloddio am arian i'r Sbaenwyr - o fynydd pinc, trionglog, Cerro Rico. Mae'n bosib mynd ar deithiau i'r fwynfa hyd yn oed nawr - i weld amodau gwaith truenus y gweithwyr yno o hyd.


Ond mae canol y ddinas yma yn syndod o hardd - eglwysi mawr cerfiedig, strydoedd cul, troellog a balconis pren... Ry'n ni wedi bodloni ar ymweld a'r bathdy hynafol oedd yn creu arian o'r holl... arian...

Ac wrth duchan drwy'r strydoedd fel hen fenyw oherwydd annwyd trwm a diffyg ocsigen, rwy wedi bod yn dotio ar yr holl hetiau - rhai'r dynion a'r menywod. Nid dim ond bowler hats, ond hetiau fflat, hetiau gwellt, hetiau gwlanog, hetiau meddal, a hyd yn oed hetiau uchel fel y wisg Gymreig!

No comments: