Sunday 31 May 2009

Swyn Isla del Sol


Roedd Maria yn grac. Roedd hi wedi bod mas 'da'r anifeiliaid drwy'r dydd, ac ar ei ffordd adre pan feiddiodd rhyw dramorwr dynnu llun o'i lama!
"Pam wyt ti eisiau tynnu llun o fy lama i?" gwaeddodd, "Paga me! Paga me! Dylet ti nhalu i!"

Roedd Hywel a fi wedi eistedd ar ben wal gerrig ar gyrion pentref Yumani ar Isla del Sol pan welon ni nhw. Asyn oedd ar y blaen, merch fach yn y canol, lama tu ol iddi hi, ambell ddafad, yna mochyn, dwy ferch fach arall, lama arall falle, un fenyw'n cario nwyddau ar ei chefn, a mwy o asynnod trwmlwythog tu ol iddi hi. Ro'n nhw'n anelu nol am y pentref ar ol bod ar y llethrau serth drwy'r dydd. Do'n ni ffili help ond tynnu llun.

Dechreuodd Maria alw arnon ni'n grac cyn iddi'n cyrraedd. Ond, doedd dim rhaid i ni aros yn rhy hir cyn iddi wenu. Roedd hi ond yn wyth oed ac yn meddwl ei fod e'n ddoniol ein bod ni'n holi am enw'r lama. Rosita oedd ei henw hi, meddai, ac edrychodd y lama arnon ni gyda'i llygaid mawr brown heb ots am y llun. Felly bant a Maria - eu chwiorydd bach siriol yn dilyn gan sibrwd, 'caramelos,' arnon ni'n obeithiol, ond heb aros yn ddigon hir i ni roi loshin iddyn nhw beth bynnag.

Roedd Isla del Sol yn le hudol. Yn ynys fach ynghanol llyn anferth Titicaca, mae'n le sanctaidd oherwydd cred taw oddi yma y deilliodd yr Incas cyntaf - mab yr haul a merch y lleuad. Fe gerddon ni ar hyd llwybr yr Incas i olion un o'u hen demlau; adfeilion oedd fel dryslwyn llawn cilfachau.

Heblaw am yr holl gartrefi sy'n cael eu troi'n pizzerias, neu'n lochesi i'r teithwyr sy'n heidio yma nawr, dyw Isla del Sol ddim fel pe bai wedi newid rhyw lawer ers canrifoedd. Rhwng y tai mwd a'r toeon gwellt mae corlannau bach lle mae lamas, asynnod, ieir, moch, defaid a chwn wedi'u clymu fel trysorau teuluol, neu sypiau o wellt wedi'u clymu at ei gilydd i sychu yn yr haul.

Mae'n le gwahanol iawn i Copacabana, ar ochr draw'r llyn. Dyma lle gallai eich holl ddymuniadau ddod yn wir. Mae 'na Forwyn Fair arbennig ar ben y bryn uwchben y dref, gyda 16 croes yn arwain ati. Ond i chi offrymu carreg fach iddi neu fersiwn bach o beth bynnag hoffech chi gael, bydd hi'n gwireddu'ch breuddwydion cyn diwedd y flwyddyn. (Gallwch chi hyd yn oed gael eich car wedi'i fendithio gan yr offeiriad os addurnwch chi e a blodau a'i barcio tu fas i eglwys y dref fore dydd Sul...)

Anghofies i ddymuno am unrhywbeth wrth y forwyn ar gopa bryn Copacabana. Ond rywsut, ar ol dros wythnos o deimlo'n llwyd a thost - o San Pedro de Atacama i La Paz - mae'r ddau ohonon ni fel pe bai'n llawer gwell. Alla i ond meddwl bod gwylio'r machlud oren dros lyn Titicaca, a'r cymylau'n gloywi'n binc dros fynydd Illampu wedi bod yn help.

Ry'n ni yn Peru erbyn hyn - yn Cusco er mwyn dilyn ol traed yr Incas unwaith yn rhagor i ddinas hynafol Machu Picchu.

No comments: