Monday 11 May 2009

El Camino de la Muerte y Valle de la Luna


Don ni ddim yn gwybod cyn dechrau... Falle na fydden ni wedi'i neud e tasen ni'n gwybod....

Roedd hi wedi cymeryd wythnosau i fi berswadio'n hunan nad oedd y ffordd sy'n cael ei nabod fel 'Death Road' mor beryglus a hynny. Wedi'r cyfan, pam fyddai'r Rough Guide yn dweud mai beicio ar ei hyd yw'r ail weithgaredd gorau yn Ne America gyfan?

Felly bant a ni ar fore Sul clir a sych lawr 'El Camino de la Muerte' gan ddechrau awr tu fas i La Paz, dros 4000 o fetrau uwchben y mor. Roedd mynyddoedd yr Yungas yn codi'n hynod o uchel uwch ein pennau, a condor anferth yn hedeg yn esmwyth dros y ffordd oedd yn troelli am 68 o km islaw. Dyma oedd y brif ffordd rhwng La Paz a Coroico ar un adeg. Ond, roedd degau o loriau a cherbydau wedi cwympo i ebargofiant wrth geisio stryffaglu lan a lawr yr hyn sy ond rywfaint yn fwy na llwybr yn glynu wrth ochr y graig. Fe agorodd ffordd newydd i'r cerbydau tua 2005, gan adael y llwybr i'r beicwyr.

Felly dyna lle ro'n ni hanner ffordd lawr 'Ffordd Marwolaeth' pan glywon ni bod damwain angheuol wedi bod y diwrnod cynt. Roedd hi'n iasol sylweddoli bod dyn ifanc o Loegr wedi'i ladd yn gwneud yr union yr un gweithgaredd a ni. Yn ol ein tywyswyr, roedd e siwr o fod yn mynd yn rhy gloi, ac wedi colli'r troad a syrthio oddi ar y mynydd. Fe welon ni'r safle lle y syrthiodd e - dibyn hollol serth yn syrthio reit lawr am gannoedd o droedfeddi... A doedd gan ei dywyswyr e ddim hyfforddiant i'w achub...

Pan gyrhaeddon ni lawr yn ddiogel ar ddiwedd y daith, roedd y ddau ohonon ni'n llawn rhyddhad. Mae'n daith anhygoel ac fe fwynheon ni'n fawr iawn. Ond do'n i ffili help teimlo rhyw fath o euogrwydd bod teithiwr arall wedi colli ei fywyd yn gwneud yr union yr un peth.

Lle tipyn llai peryglus oedd y Valle de La Luna ar gyrion La Paz. Mae ond dafliad carreg tu hwnt i'r maestrefi, lle mae plasdai moethus rhai o ddinasyddion dosbarth canol y ddinas. Yno mae tirlun arall-fydol pigau tywodfaen yn ymestyn yn glystyrrau i'r awyr. Yr unig blanhigion sydd yno yw cacti pigog. Rhaid bod wyneb y lleuad yn drawiadol iawn os yw'n edrych fel hyn.

1 comment:

Els said...

Ble roeddech chi 4 mil o filltiroedd uwchben y mor? Mae'r tirlun yn edrych yn debyg i'r gofod yn y lluniau?