Gan fod Gwenfair yn y gwaith, fi sydd a'r cyfrifoldeb o ddweud hanes. Wrth gwrs dechreuodd y penwythnos ar nodyn gwael, wrth i ni wylio Cymru'n colli i'r Ffrancod - a hynny amser brecwast ar fore dydd Sadwrn. Daeth glaw trwm i ychwanegu at ein diflastod - dim ots, mae dal i fod gobaith o ennill y pencampwriaeth...
Ta beth, ar fore Sul aethon ni i wasanaeth arbennig wedi ei threfnu gan Gymdeithas Gymreig Wellington - cyfle i ganu bach o 'Gwm Rhondda' ac 'Aberystwyth', a blasu pice ar y maen am y tro cyntaf ers achau. Ond, a phob parch i drigolion y ddinas hyfryd yma, do'n nhw ddim cweit yn iawn... Felly, cafodd Gwenfair dro ar wneud rhai, ac on nhw'n llwyddianus iawn - gyda hyd yn oed y Kiwi a'r Ozzie sy'n rhannu ein fflat ni yn fodlon eu blasu.
Ond nid dyna oedd diwedd y dathlu. Y 'Dragon Bar' yw gwir ganolfan cymdeithas Cymry Wellington - lle sydd wedi magu traddodiadau "Cymreig" ei hun dros y blynyddoedd. Roedd Mike y landlord yn gweini "mini-fagots" a rhyw fath o Welsh rarebit, ac yn benderfynol bod rhaid i Gardi fel fi fanteisio ar y cyfle o gael mwy o fwyd am ddim, a chymryd rhan yn y cystadleaeth byta cennin amrwd.
Doedd e ddim yn hawdd, nac yn flasus - ond, dwi'n falch iawn i ddweud wrthoch chi mod i wedi curo pedwar-ar-ddeg- o fois eraill i ennill! Y wobr - potel o Brains SA yr holl ffordd o Gymru. Felly, o leiaf daeth buddugoliaeth i Gymru erbyn diwedd y penwthnos - er sai'n credu byddwn ni'n parhau a'r traddodiad Gwyl Ddewi arbennig yma pan ddewn ni nol i Gymru...
**A BRIEF TRANSLATION: We may have lost the rugby, but I've been crowned 2009 Leek Eating Champion in what claims to be the only Welsh pub in the entire Southern Hemisphere. Thought you'd like to know...
1 comment:
Llongyfarchiadau ar dy lwyddiant gyda'r cenin!! A dydd Gwyl Dewi hapus i'r ddau ohonach chi. Gobeithio bod Gwenfair ddim yn gweithio'n rhy galed a'ch bod chi dal yn cael amser i fwynhau. Tom a finna wrth ein boddau yn darllen amdanoch chi. Hwyl am y tro, Ffion xx
Post a Comment