Pan aethon ni i'r Marae yn Gisborne rhyw fis yn ol, fe amneidiodd hen ddyn gwengar arnon ni i ddod mewn, cyn i'w lifft gyrraedd a diflannodd e drwy'r drws. Yn ei le daeth boi ifanc i'n croesawi ac egluro wrthon ni beth oedd y safle yn ei olygu iddo fe, "This place is sacred for us. This is where we grow up, this is where we marry, and where we come when we die." Rhaid parchu'r Marae, ychwanegodd, a dangos hynny drwy beidio bwyta na gwisgo sgidie yn yr adeilad.
Ry'ch chi'n cerdded dan borth cerfiedig i gyrraedd drws y Marae, a thu fewn mae'r adeilad wedi'i orchuddio a phaneli a phren cerfiedig eto, wedi'u haddurno ag ambell i gragen paua disglair fan hyn a fan draw. Fel arfer, dy'ch chi ddim fod i fynd i Marae onibai eich bod chi'n cael gwahoddiad, felly ry'n ni'n teimlo'n freintiedig i ni gael croeso yn y Marae yn Gisborne.
Ar yr East Cape, fe welon ni Tungi; angladd Maori. Roedd torf o bobl yn eu du tu fas y Marae ger Te Kaha un noson... Ac ro'n nhw dal yno y bore wedyn. Gall Tungi bara tridiau, mae'n debyg. Ond nid capel yw Marae fel y cyfryw, mae capeli arwahan, ond math o ganolfan gymunedol arbennig; lloches i'r Maori lleol a rhai o bell; lle mae'r henaduriaid yn trafod materion lleol a gwneud eu penderfyniadau; lle i gymdeithasu, dathlu a galaru.
Ry'n ni wedi dysgu mwy am draddodiadau a diwylliant Maori ar ddiwrnodau gwlyb yma yn Amgueddfa Te Papa yn Wellington. A chan fod Te Papa a chelfwaith y Maori yn llawer mwy difyr na hanesion am goffi Flat Whites a Paninis, ro'n i'n meddwl falle bydde'r lluniau yma yn fwy diddorol...
**** It's been a quiet week in Wellington while I endeavoured to master the art of coffee making, tried Pilates for the first time, watched Milk at the cinema, and enjoyed my house husband's Vietnamese suppers... So instead of boring you with our 9-5 existence this week, we thought you might prefer to see these pictures of Maori carvings from when we visited the East Cape........****
No comments:
Post a Comment