Roedd pawb yn dweud wrthon ni pa mor bert yw Ynys y De, a dy'n ni ddim wedi'n siomi eto.
Ar ol taith fer ar y fferi o Wellington, ry'ch chi'n cyrraedd Picton; porthladd bach yn nythu yng nghesail y Queen Charlotte Sounds. Mae'r tir fel bysedd hir coediog yn ymestyn mas i'r mor glas glas, ac ar y dwr cysgodol mae pengwins yn arnofio a degau o ddolffiniaid 'bottlenose' yn llamu'n gryf tu ol i'n cwch.
Mae taith gerdded y Frenhines Charlotte gyda'r mwyaf poblogaidd yn Seland Newydd, ac yn para rhyw bump diwrnod. Fe gerddon ni y deuddydd cyntaf - gan ddechrau yn Ship's Cove - man strategol i Capten Cook yn ystod ei ymweliadau cyntaf a Seland Newydd. O fanna, mae'r llwybr yn codi a gostwng rhwng coed ac adar naturiol yr ynys, gyda golygfeydd hyfryd o'r mor ar bob ochr. Daeth sawl aderyn Weka boliog ar draws y llwybr, ac roedd hi'n braf gweld Pukekos oedd heb gael eu gwastatu'n llwyr ar y ffyrdd, fel sy'n amlwg ar ffyrdd y gogledd!
Erbyn diwedd, ro'n ni wedi cerdded 40km i gyd, ac yn teimlo'n eitha balch ohonon ni'n hunain. Ond wedyn, ar ol cwrdd a Nils, ro'n ni'n sylweddoli nad oedd ein camp yn un mor fawr a hynny.
Roedd Nils wedi cerdded bron mor bell a ni, ac ar ran llawer yn fwy serth o'r daith - a fynte ond yn chwech oed! Roedd e'n dal i wenu ar y diwedd hefyd! Mae e a'i fam Ulrika o'r Almaen, ar ddiwedd taith chwe mis o amgylch y byd - ac yn amlwg wedi cael amser gwych.
Pwy ddwedodd bod rhaid teithio'r byd cyn magu plant??
No comments:
Post a Comment