Monday 16 March 2009

TARANAKI & WOMAD


Ar ol aros cyhyd mewn un dinas, roedd hi'n deimlad braf bod ar y ffordd unwaith eto. Mae Taranaki rhyw bump awr i'r gogledd o Wellington ar hyd yr arfordir. Ry'ch chi'n gwybod pryd ry'ch chi'n dod yn agos, achos gallwch chi weld y pigyn anferth 'ma yn codi i'r awyr filltiroedd bant.

Ac wrth droed llosgfynydd mwya bywiog Seland Newydd roedd gwyl Womad, gwyl World of Music and Dance. Ac mae'n neud beth mae'n ddweud ar y tin...


Cambodia, Nigeria, Occitane, Cheina, Seland Newydd, Yr Aifft... Roedd alawon o offerynnau o wledydd ar draws y byd yn llenwi pob cornel o'r maes. O'r diwedd - gethon ni brofi 'hangi' - pryd Maori sy'n cael ei rostio o dan domen bridd. Roedd e'n flasus iawn - rywfaint fel cinio dydd Sul, ond gyda llysiau anarferol. Wedyn, gethon ni hyd yn oed weld dynion Bedouin yn rhostio a pharatoi coffi o flaen ein llygaid - maen nhw'n ychwanegu cardamom ato fe... Rhywbeth doedd wannabe-barista fel fi ddim wedi'i weld o'r blaen...


**************There may not have been anyone from Wales performing at the Womad Festival, but we still managed to find our way into the VIP section - thanks to the Horner family. Jennifer Horner's great grandfather, William Williams, emigrated from Wales in the 1840s. Her daughter, Bridget, is a friend of ours, and even though we'd never met Jennifer or her husband, Ken, before, they welcomed us to Taranaki on the Saturday, and into their beautiful home with a feast on Sunday. They even sent us back to Wellington with a bag full of passionfruit, apples, lemons and garlic from their award winning garden - as well as a lovely bottle of Shiraz.


They have promised to visit us in Cardiff in future, while they research their Welsh ancestry. Maybe we can help them, by finding out where Meuryn and Groes Fawr are, or were... possibly villages near Cardiff..? Answers on a postcard please! Or on the blog... would probably be easier... Diolch!

No comments: