Monday 24 August 2009

RIO: Samba, Torth Fara a Ipanema

Do'n i ddim wedi dychmygu y byddai'n bwrw glaw y tro cyntaf i fi ymweld a Ipanema, ond roedd hi. Serch hynny, doedd ychydig o law ddim yn mynd i sbwylio'r mwynhad o weld y traeth lle roedd y ferch o Ipanema arfer gwneud i bobl ddweud 'Aa..' wrth iddi fynd am dro. Roedd y traeth bron yn wag y diwrnod hwnnw, heblaw am y syrffwyr, oedd yn marchogaeth tonnau mawr cyrliog yn gelfydd iawn. Erbyn y diwrnod nesaf roedd yr haul nol, a'r torfeydd mas - y dynion yn eu sixpacks a'u tryncs nofio bach, a'r menywod yn eu 'brazilian bikinis.'

Mae'n wir beth maen nhw'n eu ddweud am ''bobl hardd'' traethau Rio... Dy'n nhw ddim wastad yn son am y bobl llai ffodus sy'n gorweddian ar strydoedd mosaic hardd y ddinas, fel pe bai nhw wedi'u conco mas ar rywbeth, heb unman arall i fynd.

Er bod modd mynd ar deithiau i ymweld a favelas Rio i gael golwg well ar fywyd pobl dlawd y ddinas, bodlonon ni ar fynd i gyrion un i brofi Samba. Yn ol y poster mawr yn neuadd coch a gwyn ysgol Samba Salgueiro nhw oedd yr ysgol fuddugol yng ngarnifal 2009. Nos Sadwrn ro'n nhw'n dewis can ar gyfer y carnifal nesaf.

Roedd y neuadd yn llawn pobl o bob oedran - o blant i bobl ifanc i hen hen fenywod a chefnau crwm. Roedd criwiau mawr o bobl yn shiglo'u cyrff yn gloi tu hwnt i rythm band a cherddorfa samba oedd yn chwarae yr un pryd. Yna, daeth hanner dwsin o ferched du wedi gwisgo lan fel merched du i chwifio a chwythu cusanau a dawnsio ar y llwyfan. Ddim yn bell y tu ol iddyn nhw daeth menywod hardd a noeth onibai am benwisg tal o blu ar eu pen, glitter, a bicinis bach bach addurniedig - i ddawnsio. Waw!

Does dim golygfa arall sy'n dweud 'Rio' fwy... Heblaw falle am fynydd Pao de Azucar neu'r dorth siwgr. Er ei bod hi wedi bod yn gymylog drwy'r dydd, fel gliriodd hi ddigon i ni esgyn ar y cable cars cyflym i'r ddau gopa. Fe wylion ni'r haul yn machlud a holl oleuadau bach dinas hardd Rio yn goleuo'r tywyllwch a Iesu'n loyw ar ben y Corcovado.

1 comment:

James from Hook, plays viola said...

Amazing photos!! I reckon I'm going to have to have a trip to Rio. Look at that beach! Look at that skyline. Você é bonita!