Friday 7 August 2009

BRASILIA

O ben y twr teledu, fe geisiais i weld siap yr aderyn. Y senedd yw'r pig, ac roedd yr adennydd yn lledu bob ochr i ni yn resi o adeiladau uchel - ardal y weinyddiaeth, ardal y gwestai, y siopau a'r cartrefi un ar ol y llall.

Fel Machu Picchu, cafodd Brasilia ei chynllunio i edrych fel aderyn. Ond yn wahanol i'r ddinas Incaidd, mae teimlad gwbl fodern i fan hyn. A hynny er iddi gael ei hadeiladu ar ddiwedd y pumdegau... Does dim strydoedd yn Brasilia, dim ond prif-ffyrdd, sy'n ei gwneud hi'n anghyfleus i gerdded o un lle i'r llall. Ond dyna nethon ni: Cerdded rhwng yr adeiladau anferthol sy'n edrych fel pe bai nhw'n perthyn yn y gofod yn hytrach na lleoliad anghysbell ynghanol Brasil.

Eglwys Gadeiriol Oscar Niemeyer, ar ffurf coron ddrain, yw'r adeilad enwocaf falle. Ar ol cael ein hebrwng i'r drws gan ddelweddau'r apostolion, tu fewn mae tri o angylion nefol ynghrog o'r nenfwd. Ond mae'r adeilad bellach yn dangos ei oedran, gyda olion glaw yn trochi'r cerrig gwyn.

Eglwys arall ddaliodd ein sylw ni. Mae'r wawr las sydd yn Santuario Dom Bosco yn gwbl drawiadol; mae'n llenwi'r neuadd i gyd. Mae'r to yn dwyllodrus hefyd, fel grisiau, ond yn wastad, a chandelier gwydr anferthol yn hongian o'r canol. Ond yr hyn sy'n lledrithio yw'r golau glas sy fel pe bai'n wincio drwy'r ffenestri gothig tu ol i ddelw tywyll Iesu ar y groes.
O'r ddinas drefnus, daclus, drawiadol yma - mlaen a ni nesaf i'r gwyllt, at fyd natur a'r Pantanal.

No comments: