Sunday 5 April 2009

Akaroa i Aoraki a mwy...



Ro'n i'n dechrau meddwl ein bod ni wedi neud camgymeriad yn llogi campervan eto. Ro'n i wedi mwynhau aros mewn hosteli clyd cartrefol, hyd yn oed yr hen garchar arhoson ni ynddo fe yn Christchurch.

Roedd y ddau ohonon ni'n rhynnu ar ein noson gyntaf yn y fan ar benynys Banks. Beth o'n ni'n ddisgwyl yn yr hydref, heb drydan i gynnu'r gwresogydd? Ond, pe na baen ni wedi aros yn y gwersyll coediog wrth lan y mor, fasen ni ddim wedi casglu cregyn glas oddi ar y creigiau, na phêr o'r goeden wyllt gerllaw a'u bwyta i swper.

Ro'n ni wedi mynd i'r penynys i weld pentref 'Ffrengig' Akaroa. Roedd rhyw 63 o Ffrancwyr wedi glanio yno ym 1840 ond i ddysgu bod y Prydeinwyr wedi hawlio'r tir dan gytundeb Waitangi rai dyddiau ynghynt. Er bod eu breuddwyd o sefydlu trefedigaeth Ffrengig ar ben, fe arhoson nhw beth bynnag, a nawr mae'r diwydiant twristaidd yn gwneud ei orau i geisio pwysleisio Ffrainc-eiddiwch y llecyn trawiadol.

Erbyn i ni gyrraedd Llyn Tekapo, ro'n ni'n gwybod ei bod hi'n werth cael trydan. Felly er ei bod hi'n agos at y pwynt rhewi tu fas, ro'n ni'n dwym tu fewn ac yn gallu cysgu, cysgu... A dihuno i olygfeydd gwych o'r haul yn codi dros y mynyddoedd ben draw'r llyn.

A dweud y gwir, mae pob tro ar yr hewl yn datguddio golygfa anhygoel newydd sy'n ddigon i dynnu'ch anadl. O fynydd uchaf Seland Newydd, Aoraki, i fan hyn ar lan llyn Wanaka. A'r gwir yw, heb y 'gwib-gerbyd-gwersylla' 'ma fasai'r golygfeydd jyst ddim yr un peth.

No comments: