Mae'n cyfnod ni yn Seland Newydd yn dod i ben. Ry'n ni'n barod wedi ffarwelio a Ynys y De ar ol gweld rhewlifau Fox a Franz, ac yna mynydd Aoraki'n adlewyrchu ar lyn Matheson ar arfordir y gorllewin. Fe rannon ni fath a channoedd o bobl eraill yn nyfroedd poeth y ddaear yn Hanmer springs, bwyta cimwch yn Kaikoura, a blasu gwinoedd Cloudy Bay yn Malborough.
Nol ar Ynys y Gogledd, Fe ffarwelion ni a Wellington yng nghwmni Cofi alltud. Fe gwrddon ni a Taffy Parry nol ar ddydd Gwyl Dewi. Pan yn fachgen yng Nghaernarfon ym mhumdegau'r ganrif ddiwethaf, Alwyn roedd pawb yn ei alw e. Ond mae e wedi cartrefi yn Plimmerton, tu fas i'r brifddinas ers degawdau. Ro'n ni'n ddigon ffodus i gael taith yn ei gwmni o amgylch ei filltir sgwar newydd, a llwyddo i ddrysu'r gweinwyr yn ei hoff fwyty Indaidd lleol oedd erioed wedi'i glywed yn siarad iaith ryfedd yno o'r blaen!
Mae'r camper nol yn y garej erbyn hyn, a Hywel a fi'n cael ein sbwylo wrth ffarwelio a'n teulu Kiwi, yn gyntaf yn Cambridge, a nawr yn Auckland. Ar ol bron i dri mis yn Seland Newydd, ry'n ni ar fin gadael am Dde America, a gobeithio bod antur arall yn aros amdanon ni yn fanna...
No comments:
Post a Comment