Sunday 26 April 2009

PUCON: Campo o fath gwahanol



Dim ond ei gyfarch e nes i. Do'n i ddim wedi meddwl y byddai hynny wedi achosi i'r dieithryn llwyr ein dilyn ni am weddill y bore, na chasglu rhai o'i ffrindiau i ddod gyda ni!

Ro'n ni newydd gyrraedd Pucon ar y bws dros nos o Santiago. Pentref gwyliau hardd ar lan llyn Villarrica yn ne Chile yw Pucon, gyda un o losgfynyddoedd mwya prysur de America yn mygu yn y cefndir. Ond wrth i ni gerdded drwy'r strydoedd am y tro cyntaf, daeth haid o gwn cyfeillgar i'n dilyn ni un ar ol y llall - cymaint a phump ar un adeg, nes i Hywel holi os mai dyma wir ystyr 'codi pac...'

Mae fel pe bai bod cwn ymhobman yma - yn cynnwys Negra, ci yr hostal lle arhoson ni am ein noson gyntaf yn yr ardal. Mwy o gwn nag ymwelwyr falle, gan bod tymor prysur y gwyliau wedi hen ddod i ben. Y prif ymwelwyr eraill yn yr ardal ar hyn o bryd, mae'n debyg, yw Israeliaid ifanc sydd newydd orffen eu cyfnod yn y fyddin ac sydd eisiau rhyddhad.

Fe gwrddon ni a nifer wrth fynd i rafftio dwr gwyn. Roedd Hywel wrth ei fodd bod un ohonyn nhw, Tal, yn gwybod am Gorky's Zygotic Mynci yn ogystal a'r Super Furry Animals ar ol gweithio mewn siop gerddoriaeth am gyfnod...

Son am anifeiliaid, mae digon o'n hamgylch ni ar y 'Campo' lle ry'n ni'n aros nawr - rhai blewog a phluog. Fferm Mapuche yw Campo Kila Leufu, ac mae rhyddid gan foch Irma a'i gwr Antonio i grwydro'n brysur yn y pridd tu fas i'r ty i fwyta hadau'r castanwydden sy wedi cwympo o'r coed.
Ystyr Mapuche yw pobl y wlad, a dyna'r enw mae pobl gynhenid Chile yn galw'i hunain nawr. Pobl lwyddodd i wrthsefyll yr Incas am ganrifoedd o'n nhw, a'r Sbaeniaid tan ddiwedd y 19Geg. Er bod eu traddodiadau wedi dirywio dros y blynyddoedd, mae'n debyg bod adfywiad wedi bod dros y degawdau diwethaf.

Mae olion ohonyn nhw ymhobman - o'r boncyffion cerfiedig sydd i'w gweld mewn mannau, i'r bwytai lu sy'n cynnig danteithion Mapuche. Yn y pyllau thermal lleol, fe welon ni grwp bach ohonyn nhw'n ymdrochi. Ges i sioc a braint yn yr ystafelloedd newid o gael cais gan un fenyw Mapuche yn ei gwisg draddodiadol i'w helpu i ail-osod rhubannau ei phenwisg...

Ein swper olaf yn y campo oedd gwledd Mapuche yn cynnwys eu bara grawn tenau oedd yn flasus gyda salsa, saws chili neu fêl, yna cawl fel prif bryd a hadau piñons o goed yr araucania gyda mêl i bwdin - pob un cynhwysyn wedi'i gynhyrchu ar y fferm.

1 comment:

charchar said...

Am slightly concerned to see pictures of close encounters with pigs.....hope you've scored yourselves some face masks and Tamiflu :-)!! Be careful....oink. LOL
Charlotte XXXX