"BAR-bit-u-ATEs!!"
Sai'n cofio gweddill y joc - ond dyna oedd y punchline. Roedd e'r math o joc chi'n siwr bod Mike y landlord o Abertawe wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, ond roedd e'n amlwg yn dal i fwynhau ei ddweud e. Ro'n ni yn eistedd yn nhafarn Gymreig Wellington yn barod i aros am y gem fawr. Mae'n le bach doniol - hen dai bach cyhoeddus ar ynys ynghanol dwy hewl drwy ganol y ddinas, ac mae Mike wedi codi baneri'r ddraig goch dros bobman, cenhinau pedr, lluniau rygbi - y lot. Ffilon ni aros ar ddihun tan 6.30, ond 'ni di cael gwahoddiad i fynd nol i'r 'Welsh Dragon Bar' i gystadlu yn y gystadleuaeth bwyta cennin ar ddydd Gwyl Dewi yn barod!
Ar ol noson gret 'da ffrindiau o Gymru yn Auckland, mae wedi bod yn hyfryd cael aros 'da ffrindiau o Wellington fan hyn. Mae'n ddinas arbennig - wedi'r cyfan, mae 'na cable car 'ma, morloi, canws - a rygbi. Fe wylion ni'r Warratahs yn chwalu'r tim lleol, yr Hurricanes yn stadiwm y cake tin.
A heblaw am rygbi, a thafarn wedi'i gorchuddio a'r ddraig goch, mae'r tywydd yma yr un mor gyfnewidiol a'r tywydd yng Nghymru i neud i ni deimlo'n gartrefol.
No comments:
Post a Comment