Roedd hi'n rhyddhad gadael gwres llethol Awstralia a chyrraedd haf braf Seland Newydd. Roedd y brif ddinas yn dathlu ei sefydlu wrth i ni gyrraedd - a dinas yr hwyliau yn byw i'w henw gyda'r harbwr yn llawn cychod o bob math, yn rasio.
Cyn gadael Auckland hyd yn oed fe ddechreuon ni'n harfer diweddar o ddod ar draws creaduriaid newydd. Ond sylweddolon ni'n gloi mai un o'r rhywogaethau llai prin yw un sydd wedi'i gyflwyno i Seland Newydd ers i'r Ewropeaid gyrraedd yma - y Cymro... Ry'n ni wedi cwrdd a mwy o Gymry yma nag yn unman arall ar ein taith hyd yma - rhai sy'n teithio, rhai sydd wedi byw yma ers blynyddoedd ac eraill sy'n gwneud cais i fyw yma ar ol dwli ar y lle. Mae'n hawdd gweld pam.
Ond fe ddechreuon ni chwilio am anifeiliaid go iawn lan yn y gogledd a lan yn y Bay of Islands ro'n ni'n ddigon lwcus i weld dolffiniaid yn llamu o gwmpas ein cwch, a'u rhai bach yn eu dilyn dan y dwr. Gwelon ni pengwins hefyd yn ymlacio ar y tonnau wrth i ni hwylio rhwng yr ynysoedd folcanig.
Un o'r creaduriaid mwyaf swil ro'n ni'n gobeithio'i weld oedd symbol Aotearoa, sef y Kiwi. Dim ond wedi iddi dywyllu mae e'n gadael ei nyth. Felly, roedd rhaid crwydro yn un o'r coedwigoedd mwyaf lledrithiol i fi fod ynddi erioed ganol nos i'w weld; coedwig Kauri Trounson Park. A rhwng y coed enfawr gyda'r pryfed gloyw yn sgleinio fel tylwyth teg y dethon ni ar draws yr aderyn. Ei glywed e nethon ni gynta - yn canu nodyn uchel dro ar ol tro, yna'i gamau trwm drwy'r dail, cyn iddo redeg yn lletchwith ar draws y llwybr, a diflannu i'r perthi unwaith eto. Roedd e'n grwn i gyd a'n dilyn ei big hir, fel cymeriad cartwn bron.
Felly, dyma sut ry'n ni wedi dechrau'n taith drwy Ynys y Gogledd o leiaf - mewn campervan newydd sydd wedi'i addurno ag aderyn y Tui ar un ochr, a madfall y Tuatara ar yr ochr arall. Dy'n ni ddim wedi gweld yr un o'r rheiny yn eu cynefin eto, ond bydd digon o gyfle gobeithio!
No comments:
Post a Comment