Tuesday 10 February 2009

Gwinllanoedd a Gwyl Waitangi



Digwydd dod ar draws y dathliadau yn ardal Art Deco Hawke's Bay nethon ni, ond ro'n ni'n falch iawn i ni wneud. Roedd Seland Newydd yn dathlu'r cytundeb rhwng y Maori a'r Ewropeaid, y Pakeha, nol ym 1840 ar Chwefror y 6ed. Fe ddechreuodd y dathliadau swyddogol eleni gyda dau ddyn o dras Maori yn ymosod ar y Prif Weinidog, ond yn nhref fach Clive o leiaf, roedd awyrgylch carnifal.

Fe gyrhaeddon ni'r wyl wrth i ryw fath o ail-gread o'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng y Maori lleol a'r Pakeha ddod i ben - gyda chriw o fechgyn lleol yn perfformio'r haka yn llawn angerdd. Yna, yn anffodus, aeth y Waka, y canw pren traddodiadol, yn sownd yng ngwely'r afon, wrth i griw arall o bobl ifanc yr ardal geisio'i lywio i'r lan fel rhan o'r seremoni.

Er taw Maori oedd mwyafrif y dorf, roedd hi'n amlwg bod tensiwn o hyd ynglyn a holl oblygiadau'r cytundeb. Fe bwysleisiodd y Maer lleol mai dathlu 'addewid' cytundeb Waitangi oedden nhw heddiw, a bod llawer eto i'w gyflawni cyn iddo gael ei wireddu. Yn hwyrach, daeth band Tribal Syndicate i'r llwyfan a thra'n rapio am eu balchder o fod yn Maori, ro'n nhw'n ddiflewyn ar dafod wrth gyfeirio at 'dwyll' Waitangi.

Fe ymunon ni yn y dathliadau drwy fwyta 'Paua Fritter,' ac fe ges i dro ar rwyfo'r Waka fy hunan. Dim ond lle i 40 oedd yn y Waka 'ma, er bod y canws rhyfel gwreiddiol yn ddigon mawr i ddal 200 o ryfelwyr! Yn ffodus, aeth e ddim yn sownd y tro hwn, gan ein gadael ni'n rhydd i dreulio gweddill y prynhawn yn blasu gwinoedd gwinllanoedd Hawke's Bay. Ac ar ddiwedd y dydd, gyda campervan trwmlwythog o boteli hyfryd, fe wylion ni'r haul yn machlud dros y mor tra'n sipian Sauvignon Blanc fyddai wedi tyfu o'n blaen rai misoedd yn unig ynghynt.

No comments: