Sunday 21 June 2009

Moelgi'r Moche a Thrysorau'r Tywod



O bell maen nhw'n edrych fel bryniau o fwd. Serch hynny nid ffurfiannau naturiol yw'r rhein ond pyramidau gafodd eu creu cyn cyfnod yr Incas. Diwylliant y Moche oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, ac fe addurnon nhw'r welydd a lluniau lliwgar o'u duwiau, corrynod anferth, a darluniau cosmic. Draw ym mhyramidau diweddarach pobl y Chimu yn Chan Chan, mae'r addurniadau yn llawn delweddau o'r lleuad, y mor a'i chreaduriaid.

Ond pe baech chi'n gobeithio gweld mummies yn y pyramidau ger Trujillo, byddech chi'n cael eich siomi. Cafodd unrhyw gyrff ac unrhywbeth gafodd eu claddu gyda nhw eu dwyn o'r beddrodau hyn flynyddoedd nol. Roedd pobl yr ardal hon yn gwybod yn iawn nad bryniau o fwd oedd yma.

Un lle oedd wedi twyllo'r bobl leol oedd Sipan, tu fas i Chiclayo. Dyma lle bu'r uchelwr, Senor de Sipan yn gorwedd yn ei feddrod am dros 1,800 o flynyddoedd - fe, ei wraig, ei ddwy concubine, dau warchodwr, dau llama, ci, digon o fwyd i'w borthi yn y byd nesaf, a digon o wisgoedd ac aur ac arian i'w gadw'n hapus hefyd.

O'i amgylch roedd 11 beddrod brenhinol arall, pob un yn llawn trysorau. A'r tro 'ma, yr archaeolegwyr gafodd ddod o hyd iddyn nhw. Cafodd y cyfan ei amddiffyn rhag dwylo blewog unrhyw ladron, gan bod El Nino a'r elfennau wedi erydu'r pyramidau i edrych yn union fel y bryniau naturiol o'u hamgylch.

Rhwng yr adfeilion, ynghanol yr anialwch, mae cwn arbennig yn byw. Cwn moel Peru - Viringo. Maen nhw wedi byw yn yr ardal yma ers cyfnod y pyramidau a'n dal i grwydro'r strydoedd. Mae rhai'n dywyll, ac eraill yn binc ac ambell un yn trotian heibio mor gloi, ei ben mor isel a'i gynffon rhwng ei goesau, fel pe bai yn cywilyddio ei fod yn noeth! Ond mae gallu ganddyn nhw i iachau... medden nhw...

'Falle na welwn ni ragor ohonyn nhw nawr, achos ry'n ni ar fin gadael Peru.

O'r diwedd ry'n ni wedi gadael cwmwl niwlog y garua ac wedi dod i'r lle mae'r cerrynt Humboldt yn cwrdd a'r cerrynt El Nino yn y mor. Mae'n hyfryd gweld y tonnau unwaith eto, heb unrhyw wylan i'w gweld yn unman. Yn lle hynny, mae heidiau o belicaniaid mawr yn hwylio heibio, a nifer o adar hugan (gannet) yn plymio fel bom i'r tonnau i bysgota....

Ecuador nesaf.

No comments: