Friday 12 June 2009

Adar mawr, moch bach a merched pert

Do'n i erioed wedi meddwl y bydden i'n rhannu bws 'da oen, heb son am llama. A do'n i erioed wedi meddwl y bydden i'n bwyta bochdew chwaith. Yn eglwys gadeiriol Cusco, mae 'na lun o Iesu yn bwyta bochdew yn ei swper olaf. Mae e hefyd yn yfed, nid gwin, ond chicha. Mae Cuy yn bryd traddodiadol yn Peru, ac roedd Hywel yn edrych mlaen i'w flasu ers cyrraedd y wlad.

Yn Arequipa daeth ei gyfle. Daeth y creadur i'r ford yn ei gyfanrwydd, ei wyneb bach ffriedig a'i ddannedd miniog yn edrych bron fel cartwn. Yn ol Hywel, mae'r cuy yn blasu fel rhywbeth rhwng ffowlyn a physgod. Ar ol blasu tamaid bach fy hunan, sai'n bwriadu blasu rhagor.

Nid cuy ond merched crefyddol sy fel arfer yn denu ymwelwyr i Arequipa. Merch ifanc yw 'Juanita,' ond bu farw 500 mlynedd nol. Cafodd ei lladd ar gopa llosgfynydd lleol fel aberth i geisio plesio duwiau'r Inca. Ar ol i'w bedd rhewlifol gael ei ddarganfod ym 1995 mae hi bellach yn gorwedd mewn rhewgell hirsgwar yn nghanol y ddinas, ac mae ymwelwyr fel ni yn dod i syllu arni bob dydd. Os mai anfarwoli'r ferch hardd oedd bwriad yr Incas, anodd credu mai dyma beth oedd ganddyn nhw mewn golwg.

Merched crefyddol o fath gwahanol sydd wedi gwneud Monasterio Santa Catalina yn enwog. Ar un adeg, fe ddisgrifiodd y Pab y lleiandy fel clwb elite i fenywod. Penderfynodd Pab arall ddyrchafu un o'r chwiorydd yn Santes. Nawr, mae awyrgylch arbennig i'r safle, sy fwy fel dinas fach na lleiandy; a chyfle i fwynhau 'temtasiynau melys pechadurus' wedi'u paratoi gan y lleianod presennol....

Tu fas i Arequipa, negeseuwyr nefol yw'r atyniad. Roedd adar y condor yn sanctaidd i'r Inciaid, ac yn y Colca Canyon, un o geunentydd dyfna'r byd, mae nifer ohonyn nhw'n byw. Mae'r ceunant hefyd yn enwog am y terasau hynafol sy'n creu patrwm cylchog o'r tir. I gyrraedd yno, rhaid eistedd mewn sedd gyfyng ar fws gorlawn am bump awr gyda gwragedd mewn gwisgoedd traddodiadol pert yn cario eu llamas a'u hwyn adre gyda nhw yn eu breichiau!

Am ryw reswm, fe gerddodd Hywel a fi dros fil o fetrau lawr i waelod y ceunant a nol lan eto mewn diwrnod. Tasg flinderus tu hwnt, yn enwedig o ystyried bod y ceunant fod ddwywaith mor ddwfn a'r Grand Canyon yn America. Ond fe gethon ni'n gwobr, wrth wylio adar y condor yn esgyn i'r awyr a chyhwfan fel ysbrydion y fall uwchben.

1 comment:

James from Hook, plays viola said...

I'm so glad this article is in Welsh because I really don't want to know what it is you're eating there, Hywel. I cannot believe my eyes. Just don't tell me... please!