"You've come to this dump, and you're not going to Tasmania?" Roedd ein gyrrwr tacsi yn feirniadol iawn o'n dewis i ymweld a phrifddinas Awstralia. A nid fe yw'r cynta i ganmol Tasmania a'n hannog i fynd yno - ond dy'n ni ddim yn anffodus. Hyn a hyn o lefydd allwn ni weld yn ystod ein mis yn y wlad anferth 'ma - ac mae Canberra yn un ohonyn nhw.
Dump neu beidio, roedd hi'n amlwg yn syth bod Canberra yn wahanol i Sydney; mae'n teimlo fwy fel tref fawr na dinas. Mae'r strydoedd yn eang a gwyrddni ymhob man, ond yr hyn sy'n rhyfedd yw'r tawelwch a'r teimlad od nad oes neb arall o gwmpas y lle. Dim ond am noson arhoson ni yno - digon i gael pip ar y senedd modern, y galeri cenedlaethol a'r amgueddfa genedlaethol. Aethon ni am dro drwy'r canol hefyd, ond er ei bod hi'n benwythnos doedd dim bwrlwm. Dim ond canolfan siopa ddi-enaid, mewn dinas goncrit sydd, er yn hardd ar fap, ddim fel pe bai yn adlewyrchu ysbryd llawn hwyl yr Oz ry'n ni wedi'i weld hyd yma.
Roedd cyrraedd Melbourne, fodd bynnag, yn teimlo fel pe baem ni nol mewn dinas go-iawn ar gyfer pobl go-iawn. Mae dros 3.5 miliwn o bobl yn byw 'ma i ddechrau - a'r nifer mwyaf o Roegiaid tu fas i wlad Groeg, mae'n debyg. Gethon ni souvlaki blasus i swper y noson gynta i ddathlu hynny.
Ardal St.Kilda ger y mor oedd un o'n hoff lefydd. Yno gethon ni'n temtio gan gerddoriaeth a chacennau, a'n swyno gan bengwins lleia'r byd ar y pier. Hefyd, ges i wireddu dymuniad unrhyw deithiwr gwerth ei halen oedd arfer bod o flaen y teli'n ddeddfol amser te ar ol ysgol bob dydd - a gweld un o ser y gwych-sebon, 'Neighbours.' A dweud y gwir, sai'n gwybod enw'r actores na'i chymeriad, (mam Toadfish rwy'n credu??!) a basai'n well 'da fi fod wedi gweld Dr Karl Kennedy - ond dal, mae gweld un o ser Neighbours yn un o'r pethe chi fod i neud yn Awstralia nagyw e?!
Un peth arall o'n i ffili help gwneud cyn gadael oedd tynnu llun o'r eglwys Gymreig a'r La Troebe Street. Yn ol yr amgueddfa fewnfudo yn y ddinas, roedd 1,500 o Gymry ymhlith y troseddwyr cyntaf i gyrraedd Awstralia, ac roedd sefydlu'r capel yn un o'u blaenoriaethau nhw. Ac mae'r 'Welsh Church' dal 'ma ynghanol holl adeiladau trawiadol eraill Melbourne. Yma o hyd, ynghanol gwlad yr Abo Abo Aborigine.....
1 comment:
Hi to both of you,Hywel,your mum gave me your blog address and very impressive it is too.Well im Dave your long lost cousin from Meidrim.I wondered why I haven't seen you on tv for a while.looks like your having a great time on your travels and hopefully when your home we can meet.I would like to say hello.have a great time and you have made a great interesting blog(I can't read welsh so I can't understand gwenfair's blog) but all the same its good.Have a safe journey and good luck.Bye
Post a Comment