Sunday 18 January 2009

Ar y Ffordd: Y BRUCE HIGHWAY




Ar ôl prynhawn anffodus o geisio syrffio yn y rip cryf oddi ar arfordir Noosa, roedd Hywel a fi newydd sefydlu'n gwersyll yn y goedwig ger y mor pan gethon ni ymwelydd.
Bwmff... bwmff... bwmff....!
Cangarw gwyllt yn sboncio drwy'r brwyn - gamau'n unig oddi wrthon ni! Neidion ni'n syn a syllu'n gegrwth ar ei ôl, cyn stryffaglu i geisio cael llun.

Mae'n syndod gymaint o greaduriaid sy'n byw wrth bwys y Bruce Highway ar y ffordd rhwng Brisbane a Cairns - ac ry'n ni'n ceisio gweld cymaint ag y'n ni'n gallu o'n fan blodeuog, yr Hippie Campervan.

Rhwng y parotiaid lliwgar, y twrcwn gwyllt a'r adar brith a'u pigau mawr sy'n canu wrth i ni godi, y brogaod a'r medfyll sy'n sgrialu dan draed a'r holl fosgitos a chlêr sy'n gwledda ar ein cyrff ni bob nos - mae 'critters' Oz o'n hamgylch ni o hyd.


Gyda un o'r mwya brawychus oedd y dingo ar Fraser Island. Roedd rhybuddion ymhobman yn dweud eu bod nhw'n fygythiol ac yn chwilio am fwyd. Felly pan welon ni un yn dod amdanon ni ar lwybr cul rhwng y coed, fe gamon ni nol mewn ofn. Ond chymerodd hi yr un sylw ohonon ni a throedio heibio'n eofn. Ar Fraser Island hefyd y gwelon ni'n goanna cyntaf - creadur fel madfall mawr... Eu gweld nhw a'r cyfle i oeri mewn pwll hardd o ddwr ffresh glas glas ynghanol yr ynys, wnaeth y daith gerdded 15 milltir yn y gwres llethol ei werth e...

Er i ni golli cyfle i weld crwban mor yn dodwy ei hwyau ar draeth ger Bundaberg, fe welon ni ddwsinau o grwbanod bach yn torheulo a nofio yng nghoedwig law parc cenedlaethol Eungella. Nid nhw, na'r nadredd dwr gerllaw on ni wedi dod i'w gweld a dweud y gwir, ond y Platypus rhyfedd. Ar ol aros am sbel, ar y dot am bump o'r gloch daeth un bach i'r amlwg, gan godi ei big uwch y dwr ond am rai eiliadau cyn plymio lawr i chwilio am fwyd ar wely'r afon unwaith eto. Fe wylion ni fe am hydoedd, wedi'r cyfan, welwn ni fyth un arall yn ei gynefin siwr o fod.

Ond koalas.... Ry'n ni'n dal heb weld koala. Gobeithio welwn ni un fory ar Magnetic Island. Ry'n ni yn Townsville erbyn hyn - yn y Trofannau... Croc Country.... Felly pwy wyr beth arall welwn ni?...

No comments: