Thursday 4 December 2008

Siem Reap a Themlau Angkor



Doedd cyrraedd Siem Reap o Bangkok ddim yn hwyl. I ddechrau roedd rhaid teithio ar fws at y ffin am bedair awr a hanner. Wedyn rhaid cael visa, a'n gyrrwraig tuk tuk yn mynnu mynd a ni at gonswl cyffredinol Cambodia, gododd $10 yn fwy na'r pris swyddogol am y fraint. Mae'r gwahaniaeth ar ochr Cambodia'r ffin yn drawiadol. Nid ffordd oedd yna ond rhywbeth oedd yn edrych fel gwely afon llychlyd, llawn sbwriel a rwbel, a dynion yn stryffaglu drosto gan wisgo sgarffiau dros eu pennau a'u hwynebau i amddiffyn eu hunain rhag y dwst; nid yr olygfa fwya croesawgar - na'r daith dair awr dros fwmp ar ol bwmp a thwll ar ol twll i Siem Reap ei hunan. (Ond maen nhw ynghanol adeiladu'r ffordd a'n gobeithio y bydd wedi'i gwblhau erbyn blwyddyn nesaf - rhag ofn bo chi'n meddwl gwneud taith debyg!)
Ond roedd y siwrne werth y drafferth. Angkor Wat yw'r symbol ar faner Cambodia ac mae'r cwrw cenedlaethol wedi'i enwi ar ei ol. A does rhyfedd bod y Khmer mor falch o'r safle sy bellach yn un o drysorau mwya'r byd. Cafodd y casgliad o demlau eu hadeiladu dros gyfnod o rhyw chwe chan mlynedd o'r nawfed i'r bymthegfed ganrif pan mai teyrnas Angkor oedd y cryfa a'r mwyaf yn ne ddwyrain Asia. Temlau on nhw'n wreiddiol i dduwiau Hindwaidd neu Fwdaidd, a thros y blynyddoedd mae rhai wedi'u haddasu o un crefydd i'r llall.
Ond mae'n anodd disgrifio sut beth yw hi i archwilio safle mor hynod. Mae cerfwaith cerrig mor gain yno, gyda duwiesau hardd yn dawnsio ar hyd y welydd, eliffantod yn arwain byddinoedd i ryfeloedd, delweddau o nefoedd ac uffern, a chwedl am sut grewyd y byd. O bell mae teml Bayon fel tomen o gerrig, ond mae crwydro rhwng y tyrrau a'u hwynebau sy'n syllu i bob cyfeiriad yn brofiad iasol. Yn un o'r temlau eraill, Ta Prohm, mae nifer o goed canopi dros yr adfeilion, eu gwreiddiau yn ymestyn lawr a chymysgu a'r cerrig islaw. Mae'n edrych fel set ffilm weithiau, yn enwedig pan fo golau'r haul yn machlud yn adlewyrchu'n wyrdd ar y muriau rhwng y dail, a gwe pry cop yn cuddio hen gerfwaith sanskrit hynafol ger pileri'r drysau. A dweud y gwir, cafodd y lle ei ddefnyddio fel set pan ddaeth Angelina Jolie yma i bigo blodyn Jasmine ar y ffilm Tomb Raider. Ond beth sy'n rhyfeddol yw nid set na lle chwedlonol yw Angkor Wat ond lle go iawn, lle gethon ni ddringo dros y cerrig a byseddu'r cerfluniau o lewod ac eliffantod hynafol ein hunain.
Un peth arall hynod oedd cwestiwn y fenyw werthodd ein tocynnau ni i'r safle. Roedd hi eisiau gwybod o le ro'n ni, ond nid y ''Where you from?'' arferol, ond "What Nationality are you?" A fi roedd hi'n gofyn, nid Hywel. Roedd hi'n meddwl mod i'n 'mixed blood' a phetawn i wedi dweud wrthi bod gen i riant oedd yn Cambodaidd, bydden i wedi cael mynd mewn am ddim...!
Rhaid mod i wedi cael mwy o liw haul nag on i'n meddwl!.....

1 comment:

Unknown said...

o'dd pobol yn meddwl bo ti'n dod o cheina pan est ti i lan-llyn. dyw hwn ddim yn ddatblygiad newydd!