Monday 15 December 2008

Phnom Penh a'r Khmer Rouge



"Pam?... I beth?" Roedd llygaid ein tywysydd ni yn fflachio wrth holi'r cwestiwn. Roedd e'n gweithio yn amgueddfa hil-laddiad Tuol Sleng yn Phnom Penh yn tywys pobl fel ni o amgylch yr ystafelloedd arteithio, y celloedd cul, heibio lluniau'r meirw bob dydd. Ac eto roedd ei ddicter o fethu deall pam i Pol Pot weithredu cynllun erchyll y Khmer Rouge yn y saithdegau dal yn glir.

Roedd tad ein tywysydd yn fyfyriwr meddygol ym 1975 pan ddaeth y Khmer Rouge i rym. Bu'n rhaid iddo esgus ei fod yn anwybodus a thwp, a dysgu sut i blannu a chynaeafu reis ar frys er mwyn osgoi cael ei ladd. Wireddodd e fyth ei freuddwyd o fod yn feddyg, ond cafodd swydd yn amgueddfa Tuol Sleng S-21 yn lle hynny, a daeth ei fab i'w ddilyn. Ysgol Uwchradd oedd Tuol Sleng cyn i'r Khmer Rouge ei droi'n garchar, a phrysuro i arteithio 10,499 o bobl a thua 2,000 o blant ar y safle cyn eu hanfon i'r caeau tu fas i Phnom Penh i gael eu lladd, a'u claddu blith drafflith ar ben ei gilydd.

Cafodd ein tywysydd ni ei eni ym 1981, ar ol i gyfundrefn 'Angkar' ddod i ben. Ond ddaeth e ddim i ddeall yr hyn ddigwyddodd yn Cambodia tan iddo weld ffilm Hollywood The Killing Fields. Roedd e'n grac iawn nad yw plant yn cael eu dysgu am yr hil-laddiad yn yr ysgol o gwbl ar hyn o bryd. Does yr un grwpiau ysgol yn dod i ymweld a Tuol Sleng chwaith, a dywedodd ei fod yn achos pryder ofnadwy iddo.


O'r swyddfeydd NGO's a'r SUVs mawr elusennol: Oxfam, Y Cenhedloedd Unedig, Y Groes Goch.... I'r cardotwyr o blant a'u mamau, a'r dynion heb goesau na breichiau - mae arwyddion ymhob man o sut mae Cambodia'n dal i ddioddef yn ofnadwy yn sgil y Khmer Rouge. Ond mae datblygiadau ymhob man. Ar ol ond gosod tarmac ar strydoedd y brif-ddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Phnom Penh ynghanol cael system garthffosiaeth newydd hefyd. Mae elusennau lu yn gweithio i wella gofal iechyd, i ofalu am blant amddifad, i sicrhau addysg i'r plant tlotaf, a hefyd i ddysgu cynaliadwyedd ecolegol...

Ond tra bod ymdrech fawr i geisio diogelu flora a fauna prin Cambodia, roedd hi'n ddiddorol darllen erthygl yn y Phnom Penh Post ynglyn a'r pryder am ddyfodol ieithoedd lleiafrifol y wlad. Mae 12 cymuned lleiafrifol yn Cambodia i gyd - pob un a'i iaith ei hun. Tra bod 24,000 yn siarad Tumpuon yn nhalaith Ratanakkin, dim ond 500 sy'n siarad So'ong, 400 sy'n siarad Samre, 300 yn siarad Poa, a 150 yn unig sy'n siarad Sa'och. Roedd yr arbennigwyr wedi gorfod derbyn y byddai rhan fwyaf yr ieithoedd yma'n diflannu o fewn y blynyddoedd nesaf. "The next century will see the loss of half the languages on earth," meddai'r athro ieithyddiaeth Jean-Michel Phillippi, "Centuries of experience will be wiped out. The effect will be the same as burning down a library." Roedd e'n ei ddisgrifio fel 'loss of human patrimony.'


Yr hyn sy'n drist yw mai dim ond traddodiad llafar sydd i'r ieithoedd lleiafrifol yn Cambodia. Tra bod cenhadwyr o Ffrainc wedi helpu lleiafrifoedd ethnig yn Fietnam i ffurfio ysgrifau i'w hieithoedd nhw yn y 1920au, chafodd lleiafrifoedd Cambodia ddim yr un fraint. Mae'n debyg bod llythrennedd yn broblem ddirfawr, a'r gwaith o ddatblygu gwyddor newydd drwy'r iaith Khmer yn dasg enfawr fyddai'n cymryd gormod o amser mewn sawl achos.


Yr unig ieithoedd oedd yn ymddangos fel pe bai dyfodol iddyn nhw, yn ol yr erthygl, oedd ieithoedd fel y Teochew yn nhalaith Guangdong yn Cheina. Dim ond 181,000 o siaradwyr Teochew sydd, ond mae'n cael ei ddefnyddio fel iaith yr economi. Mae llywodraeth Cambodia yn cydweithio a mudiadau rhyngwladol fel Unicef a CARE i geisio arbed ieithoedd lleiafrifol y wlad ond dim ond hyn a hyn allan nhw wneud. "The crucial point is whether or not the children speak among themselves," Dywedodd Gerard Diffloth, cyn-athro ieithoedd Austro-Asiatiaidd, "When they play together, do they speak the language? If they do, then the language will go on. If they don't, it's just a matter of time."
Swnio'n gyfarwydd.....

Beth bynnag, ar ol blog hir iawn, ry'n ni bellach wedi gadael Kampuchea. Fe dreulion ni'n dyddiau olaf mewn man hardd i ryfeddu ynghanol y jwngl ar gyrion mynyddoedd y Cardamom. Ar ol taith hir iawn mewn cwch bach, jeep, bws, tacsi, bws arall, catamaran (oedd fel bod mewn peiriant golchi dillad) a songtheaw ry'n ni bellach yn Koh Tao yng ngwlad Thai. Ry'n ni'n barod i ddysgu deifio ac ynghanol dathlu penblwydd arall!

No comments: